| Pan fydd yr archwilydd neu’r cyfrifydd annibynnol yn dod o hyd i wall mewn hawliad sy'n cael ei ardystio (nad yw'r derbyniwr yn cytuno ei gywiro), neu i ryw fater ble y mae ansicrwydd (e.e., ynghylch y swm sydd ynghlwm, amod y gwariant, neu agwedd ar gyflawni prosiect), bydd yr archwilydd yn nodi'r ffeithiau ochr yn ochr â'r casgliad. Bydd rhaid i’r corff talu grantiau wedyn ystyried amod yr archwilydd yn ofalus a phenderfynu ar sut i ymateb iddo. |