| Gall prynu fod yn opsiwn mwy addas na grant ar gyfer gwneud taliadau gwerth uchel i bwrpasau a ddiffiniwyd gan y corff talu ble y sefydlir ‘perthynas contract’ gyda derbyniwr yr arian. Yn aml bydd gweithdrefnau ffurfiol iawn i'w dilyn (fel caffael sawl dyfynbris neu dendr ysgrifenedig) a bydd rhaid rhoi sylw i Reoliadau Contractau'r Sector Cyhoeddus (SI 5/2006) os yw’r pryniant dros werth ‘trothwy’. |