Llithriad
Cyfrifoldeb y derbyniwr yw cyflawni'r prosiect er mwyn bodloni cerrig milltir a thargedau mewn pryd. Fodd bynnag, gall oedi o ran cyflawni ddigwydd (oherwydd i anawsterau ddigwydd wrth recriwtio staff neu gyda gwaith adeiladu) a all hefyd olygu yr anfonir y grant hwnnw yn hwyrach na'r disgwyl ac, efallai, ni ddefnyddir ond rhan o'r swm a gynigir. Os yw’r prosiect a’r derbyniwr yn aros yn ‘fusnes byw’, gellir mynd i’r afael â’r materion hyn drwy roi estyniad i’r amser, trosglwyddiadau, yn cymeradwyo gweithgareddau eraill gan gynnwys bodloni amcanion polisi’r grant, ailbroffilio cronfeydd rhwng blynyddoedd ariannol, neu leihau’r cynnig grant. Os oes, fodd bynnag, amheuon difrifol am ymarferoldeb parhaus y prosiect neu'r derbyniwr, mae'n bosibl y bydd angen gohirio'r grant, dod ag ef i ben neu ei adennill.
<< Back to previous page