Fel rheol gyffredinol, mae cymorth gwladwriaethol yn anghyfreithlon o dan Gyfraith Ewropeaidd oni bai iddo gael ei awdurdodi gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae池 Comisiwn wedi mabwysiadu canllawiau, fframweithiau ac esemptiadau bloc i egluro ei bolisi cymorth gwladwriaethol. Er enghraifft, mae wedi sefydlu rheolau penodol, gan gynnwys esemptiadau, ar gyfer meysydd fel ymchwil a datblygiad, amddiffyn yr amgylchedd a hyfforddiant.
Mae池 rheoliadau地 gymhleth ac mae地 rhaid cydymffurfio â hwy er mwyn sicrhau bod y cymorth yn gyfreithlon. Mae derbynwyr cymorth anghyfreithlon mewn perygl o gael eu dal yn gyfrifol am gost unrhyw gosb a gymhwysir gan y Gymuned Ewropeaidd ac unrhyw weithredu ar gyfer difrod gan drydydd partïon.
Pan fydd rhaglen neu brosiect grant yn defnyddio gwariant cyhoeddus (gan gynnwys cronfeydd strwythurol y Gymuned Ewropeaidd) i ddarparu buddion i unrhyw fenter fasnachol, fel arfer bydd rhaid i'r cymorth a ddarperir gydymffurfio â rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol y Gymuned Ewropeaidd (er bod terfyn de-minimis nad oes angen i roi gwybod am y cymorth os yw'n is na'r terfyn).
Cyhoeddir canllawiau ar wefan Llywodraeth y DU, cliciwch yma.