| Gellir hawlio rhai benthyciadau ar amcangyfrifon (e.e, pan delir elusennau’n chwarterol o flaen llaw) ac mae’n bosibl na fydd angen i eraill drefnu i bob hawliad gael ei ardystio gan archwilydd neu gan gyfrifydd annibynnol. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’n arferol i drefnu i’r derbyniwr dderbyn datganiad ‘alldro’ yn dangos yr incwm a’r gwariant gwirioneddol a gafwyd (ar gyfer y flwyddyn, neu ar gyfer cyfnod cyfan y prosiect). Fel arfer bydd angen i hyn gael ei ardystio gan archwilydd neu gan gyfrifydd annibynnol. |