The Childrens Trust Close
Home > Ffyrdd Callach o Weithio > Oriau hyblyg a chontractau
Oriau hyblyg a chontractau
Oriau hyblyg a chontractau

Mae 24 awr mewn diwrnod, saith diwrnod mewn wythnos, a 52 wythnos mewn blwyddyn - ac mae llawer o sefydliadau sy'n gorfod darparu eu gwasanaethau drwy gydol yr amser hwnnw.

Roedd adeg pan oedd archfarchnadoedd brysuraf ar nos Iau, ac roedd banciau'n cau am 3.30 pm. Mae newid wedi'i hybu gan alw defnyddwyr gwasanaethau wedi galw am fwy o hyblygrwydd o ran trefnu gwaith, a bydd y duedd hon yn parhau.

Yr hyn sy'n wych am batrymau gwaith hyblyg yw os cânt eu datblygu mewn partneriaeth â'r staff dan sylw, gallant gyflawni'r sefyllfa ennill/ennill o sicrhau budd i'r ddwy ochr - darparu gwasanaethau mewn ffordd well a gwella'r broses o ymgysylltu â chyflogeion.

Gweler ein hastudiaethau achos er mwyn cael enghraifft. (Amseroedd agor estynedig i wasanaeth llyfrgell Bryste.)

Roedd sawl sefydliad yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn prosiect a gyd-gysylltwyd gan Chwarae Teg yn 2002-2005 a hyrwyddodd gydbwysedd bywyd a gwaith. http://www.wlbinwales.org.uk

Caiff y broses o ymgysylltu â chyflogeion, sy'n ymrwymiad uwch i nodau'r sefydliad, ei gwella'n gyffredinol drwy drafodaeth agored rhwng staff a'u rheolwyr llinell. Nid yw'n anghyffredin i staff sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau wybod sut y gellid gwella'r gwasanaethau hynny. Prin iawn yw'r bobl sy'n mwynhau ymdopi â chiwiau hir neu wasanaethau araf, a gall cynnwys staff yn y broses o fesur yr hyn sy'n well gan ddefnyddwyr gwasanaethau esgor ar ganlyniadau cadarnhaol iawn.

Ceir gorgyffwrdd rhwng ffyrdd callach o weithio ac ymgyrchoedd cydbwyso bywyd a gwaith. Y prif wahaniaeth yw bod ffyrdd callach o weithio yn dechrau â'r nod o wella gwasanaeth, sydd wrth gwrs yn gwella mwynhad staff o'u gwaith. Mae manteision ffyrdd callach o weithio yn aml hefyd yn cynnwys gwelliant o ran bywydau gwaith y staff dan sylw.

Amrywiad cytundebol

Mae rhwymedigaethau statudol ar gyflogwr i gynnal ymgynghoriadau ystyrlon cyn ymgymryd â newid sy'n cynnwys addasu contractau. Caiff y patrwm oriau gwaith ei gwmpasu gan y rhwymedigaethau hyn. Fodd bynnag, mae'n arfer da trafod newidiadau o'r fath â staff a'u cynrychiolwyr, felly efallai y bydd y rhwymedigaethau statudol yn fan cychwyn yn hytrach na rhwystr.

Rhwymedigaeth y cyflogwr

Ceir gofynion statudol i roi ‘ystyriaeth resymol’ i unrhyw gais am weithio hyblyg a wneir gan rieni plant ifanc ac mae'n bosibl y bydd sefydliadau wedi gwneud ymrwymiadau polisi pellach yn hyn o beth, ond mae'n iawn dweud na.

Mae Prifysgol Caerdydd yn diffinio'r ffactorau i'w hystyried wrth ystyried unrhyw gais fel:

  • gofynion y prosiect neu'r gwaith presennol;
  • y gallu i recriwtio staff ychwanegol ac unrhyw gostau ychwanegol i'r maes gwaith;
  • yr effaith ar ansawdd a pherfformiad a'r effaith ar y gallu i fodloni galw cwsmeriaid;
  • lefel y gwaith yn ystod y cyfnodau y mae'r cyflogai yn cynnig gweithio / bod yn absennol;
  • gwaith annigonol; 
  • y gallu i ad-drefnu gwaith ymhlith y cyflogeion presennol a lefel y newid strwythurol arfaethedig sy'n angenrheidiol i fodloni'r cais.

Mae'r Brifysgol hefyd yn defnyddio cyfnod prawf o 12 wythnos lle bynnag y bo'n bosibl.

Ffynhonnell: ‘Gweithio'n Hyblyg ym Mhrifysgol Caerdydd’

Yn amlwg, nid yw pob swydd/rôl yn addas i batrwm 'hyblyg'. Lle mae rhyngweithio wyneb yn wyneb ag eraill yn bwysig neu lle mae cyfarpar/technoleg yn bwysig, efallai na fydd y rôl yn addas. Ond efallai y bydd rolau o'r fath yn addas ar gyfer amrywiad mwy 'ad hoc' ac achlysurol, neu hyd yn oed cynllun y cytunwyd arno nad yw'n cynnwys yr un oriau i ffwrdd bob wythnos.

Os yw'r rheolwr bob amser yn absennol ar adeg benodol, mae risg y daw'r amser hwn yn 'gyfnod gorffwys' i bawb dan sylw.

Trafodir y pynciau canlynol, yn fanwl, yn y Cyfeirlyfr.

Cyflogaeth dymhorolGoramser - Gwaith sifftGweithio interim - Gweithwyr asiantaeth dros droOriau blynyddol - Oriau cywasgedigOriau elastig - Oriau hyblygOriau sero - Staff Cronfa - Rhannu Swydd

Ceir rhagor o wybodaeth yn 
http://www.employersforwork-lifebalance.org.uk/jargon_buster_alpha.htm