The Childrens Trust Close
Home > Ffyrdd Callach o Weithio > Yr achos busnes
Yr achos busnes
Dylai unrhyw un sy'n ystyried datblygu strategaeth Ffyrdd Callach o Weithio ystyried y materion canlynol:

Cost

Mae'r gost o alluogi aelod o staff i weithio gartref yn llawn amser yn cynnwys:

Desg £300
Cadair  £100
Cyfrifiadur £300
Cyfanswm 

£700, caniatáu dibrisiant o £140 y flwyddyn dros bum mlynedd

Lwfans* £150 y flwyddyn (ar gyfer gwres, pwer ychwanegol ac ati)
Rhyngrwyd £240 y flwyddyn
Ffôn £150 y flwyddyn
Cyfanswm £680 y flwyddyn

Mae cost darparu gweithfan mewn swyddfa hefyd yn cynnwys desg, cadair a chyfrifiadur, er y gall y gofynion o ran gweithio gartref fod yn rhai nad ydynt yn safonol.

Mae'r costau lle yn dibynnu ar ddarpariaeth bresennol y sefydliad. Efallai nad arbedir costau os oes digon o le swyddfa ar gael, ond os ystyrir darpariaeth newydd (prynu neu rentu), yna caiff pob cyflogai, yn gyffredinol, ei ystyried lle mae angen chwe metr sgwâr (gan ganiatáu ar gyfer symud a chyfleusterau).

Felly os yw'r sefydliad yn bwriadu rhentu, gyda llety swyddfa yn £15 fesul metr sgwâr, arbedir £90 y pen y flwyddyn.

Os bydd angen adeilad newydd, ac eithrio cost tir, y gost ar gyfartaledd yw £1,500 fesul metr sgwâr, sy'n arwain at arbed £9,000 yr unigolyn.

Mae astudiaeth achos gan Actium Consult ar leihau’r fanyleb ar gyfer yr adeilad cyngor newydd ar gael ar y linc canlynol http://www.actiumconsult.co.uk/news_detail.php?news_id=2

Gwella gwasanaethau

Gall arloesedd amrywio o atebion uwch-dechnoleg i welliannau syml o ran trefniant gwaith wedi'i alluogi gan batrymau presenoldeb hyblyg.

http://www2.bt.com/static/i/media/pdf/yorkshire_water_cs.pdf

Mae astudiaeth achos BT yn dangos y datblygiadau o ganolfannau ‘galwadau’ i ganolfannau 'cyswllt' i integreiddio darparu gwasanaethau ag anghenion cwsmeriaid.

Ymgysylltu â chyflogeion

Cafwyd tua 22,000 o ymatebion i Arolwg Cysylltiadau yn y Gweithle 2004. Mae'n cadarnhau bod gweithwyr rhan amser a'r rhai â chontractau hyblyg yn aml yn fwy ymrwymedig na staff arall.

http://www.wers2004.info/research/primaryanalysis.php

Mae gweithio hyblyg yn ategu gwell cydbwysedd bywyd a gwaith, gan wella cynhyrchiant a lleihau trosiant. Nododd 68 y cant o gyflogwyr a holwyd gan y CIPD fod y cyfle i weithio'n hyblyg wedi cael effaith gadarnhaol ar agweddau a morâl cyflogeion.

Mae'r gost yr eir iddi yn sgîl rhywun yn gadael y sefydliad yn cynnwys:

  1. Colli gwasanaeth yn ystod y cyfnod pan fydd y swydd yn wag, neu gost ychwanegol staff cyflenwi/asiantaeth. (Noder y gellir lliniaru hyn drwy greu eich cronfa eich hun o staff cyflenwi.)
  2. Cost hysbysebu. Ar y lefel isaf o hysbysebu yn y wasg bydd yn costio o leiaf £450 fesul hysbyseb, er y gall recriwtio ar y we yn unig leihau'r ffigur hwn. Gall y gost lefel uchel gyrraedd £10,000 os byddwch yn cynnwys papurau cenedlaethol dydd Sul, neu £30,000 ar gyfer ymgynghorwyr chwilio. Mae cost 'arferol' tua £1,700 fesul hysbyseb.
  3. Colli gwybodaeth a cholli amser sy'n angenrheidiol i sefydlu cyflogeion newydd, ac mae'r ddau beth yn cael effaith negyddol ar y gwasanaeth.

Canfu Cyngor Wrecsam fod cyflwyno dewisiadau gweithio hyblyg wedi lleihau salwch a throsiant staff yn sylweddol. Cliciwch yma i weld yr astudiaeth achos.