Oriau blynyddol
Yn hytrach na'i gwneud yn ofynnol i bob cyflogai fod yn bresennol am nifer penodedig o oriau bob wythnos, am 52 wythnos o'r flwyddyn, mae'r system hon yn seiliedig ar gyfanswm yr oriau a bennir am y flwyddyn gyfan.

Er enghraifft, yn seiliedig ar wythnos waith o 37.5 awr a 52.14 wythnos, i gyfrif am flynyddoedd naid, gallai cyfanswm yr oriau fod yn 1955.25.

Yna mae'r cyflogai a'r rheolwr llinell yn gallu trefnu patrwm gwaith sy'n darparu'r oriau hynny'n hyblyg, rhagor ar rai adegau o'r flwyddyn a llai ar adegau eraill.

Mae'r system hon yn arbennig o ddefnyddiol lle mae'r galw am wasanaethau yn cyrraedd uchafbwynt ar rai adegau o'r flwyddyn, er enghraifft adrannau parciau a gerddi. Mae'r system yn ddeniadol i gyflogeion o dan rai amgylchiadau, lle maent yn sgiwyr brwd, neu'n arddwyr neu â chyfrifoldebau gofalu, er enghraifft dros wyliau'r haf.

Yn amlwg, rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng sicrhau y darperir y gwasanaethau angenrheidiol a'r hyn y mae unigolion gwahanol yn ei ffafrio. Mae'n annhebygol y bydd yn ymarferol i bawb fod yn absennol ar yr un pryd. Os bydd mwy o staff yn dymuno cael amser i ffwrdd nag sy'n ymarferol ar adeg benodol, yna mae'n debygol y bydd yr un patrymau yn codi flwyddyn ar ôl blwyddyn ac efallai y bydd yn bosibl gweithredu rota, neu fodloni gofynion rhannol. Y patrwm arferol yw llunio cynllun ar gyfer y flwyddyn gyfan a fydd yn cwmpasu'r grwp gwaith cyfan – ymhell ymlaen llaw er mwyn gallu trefnu gwyliau.

Bydd cymhlethdodau hefyd yn codi os bydd absenoldeb oherwydd salwch annisgwyl yn digwydd ar adeg pan fo'r adnodd staff yn isel. Mae'n beth doeth cynnwys cymalau wrth gefn yn y cytundeb/contract/polisi i sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i ddarparu nifer ofynnol o staff dros bopeth arall.

Mae hefyd yn bwysig cynnal trosolwg o oriau gweithio brig ac osgoi'r risg o gyfnodau gweithio gormodol a fydd yn arwain at staff yn gorweithio. Mae Rheoliadau Oriau Gwaith yn ei gwneud yn ofynnol i sicrhau nad yw oriau gwaith wythnosol dros unrhyw gyfnod o 17 wythnos yn fwy na 48 awr ar gyfartaledd.

Mae systemau cofnodi oriau gwaith yn hanfodol, a rhaid gweithredu'r rhain yn gywir i osgoi'r risg o ddadl.

Crëwyd y cysyniad o oriau blynyddol gyntaf ar gyfer gweithwyr sifftiau parhaus, lle roedd y cyfanswm blynyddol yn cael ei ddiffinio yn glir o wyliau, fel bod yr amser o'r gwaith, yn cynnwys gwyliau, yn cael ei gynnwys yn yr amserlen. Os na chaiff y system hon ei mabwysiadu, yna i sicrhau'r nifer ofynnol o staff ar bob adeg, mae'n rhaid i dimau weithredu systemau trefnu gwyliau clir. Ymhlith meddygon ysbytai, lle mae hanfodion tebyg yn bodoli, dangoswyd bod gweithredu systemau o'r fath yn gweithio orau pan gânt eu trefnu a'u gweithredu gan y staff eu hunain - ond bob amser gyda gofynion y gwasanaeth yn cael blaenoriaeth.

Caiff y cyflog blynyddol ei dalu mewn symiau misol cyfartal waeth beth yw'r amser gwirioneddol a weithiwyd.

Gall staff sydd â chontractau rhan amser barhau i weithio ar sail flynyddol, gyda'r ffigur 'tybiannol wythnosol rhan amser yn cael ei luosi gan 52.14. Ond, os bydd unigolion yn disgwyl na fydd byth yn ofynnol iddynt weithio yn ystod gwyliau'r ysgol, yna mae'n well diffinio hwn fel contract tymor ysgol yn unig.

<< Back to previous page