Mewn llawer o swyddi, nid oes ffordd o osgoi hyn. Os bydd unigolyn yn canfod na all ymdopi â swydd benodol oherwydd y patrwm gwaith gofynnol, efallai y'i cynghorir i ddod o hyd i swydd arall â phatrwm sy'n addas iddo. Mae'n annhebygol y bydd cyfiawnhau perfformiad gwael drwy honni bod yn 'dylluan nos' yn cael ymateb da mewn gwrandawiad gallu/perfformiad.
Fodd bynnag, ceir rhai swyddi lle nad yw'r adeg o'r dydd y gwneir y gwaith yn hanfodol i'r gwasanaeth. Efallai y bydd cefnogi pobl sy'n barod i wneud eu gwaith ar amseroedd ansafonol yn ymarferol mewn achosion o'r fath.
Os bydd yr hyblygrwydd hwn yn cynnwys bod yn bresennol yn y gweithle, yna gall materion sy'n ymwneud â diogelwch gweithio ar eich pen eich hun, iechyd a diogelwch a chostau fod yn bwysig. Yn yr achosion hyn, mae'n ymarferol ei gwneud yn ofynnol i'r unigolyn gynnal asesiad risg a ddylai gwmpasu'r sefyllfaoedd gwaethaf posibl.
Gall trefniadau hyblyg i un unigolyn beri anniddigrwydd ymhlith aelodau eraill o'r tîm os ydynt o'r farn eu bod yn cael beichiau ychwanegol. Er enghraifft, os oes mwy o alwadau ffôn am naw y bore ond nad yw rhai staff byth yn gweithio ar yr adeg honno. Gellir goresgyn hyn drwy ad-drefnu tasgau eraill i sicrhau tegwch. Y ffordd briodol o weithredu yw cynnal trafodaeth agored â'r tîm cyfan gan greu ymdeimlad o gyd-barch.