Oriau cywasgedig
Drwy weithredu'r system hon, caiff yr wythnosau cytundebol wythnosol eu 'cywasgu' yn nifer o ddiwrnodau sy'n llai na phump. Er enghraifft, os mai cyfanswm yr oriau cytundebol yw 40, efallai y bydd yn bosibl gweithio 4 diwrnod hir (x 9 awr) a hanner diwrnod (o 4 awr).

Gall cywasgu hefyd gynnwys cytundeb gwirfoddol i weithio â llai o egwyl neu leihau hyd yr amser cinio. Rhaid i'r cyflogwr fod yn ymwybodol o ofynion y Rheoliadau Oriau Gwaith, a dylid sicrhau bod o leiaf 20 munud o egwyl ar gyfer unrhyw gyfnod o waith sy'n chwe awr neu fwy. Dylai'r cyflogwr hefyd gofio bod cymryd egwyl yn iach ac yn ychwanegu at allbwn.

Mae oriau cywasgedig yn aml yn cael eu cyfuno â gweithio rhan amser, er enghraifft, gellir gweithio wythnos 30 awr mewn pedwar diwrnod o 7.5 awr yr un, neu hyd yn oed 3 x 10 awr. Ond yma eto daw amser yn bwysig mewn perthynas â rheoliadau oriau gwaith ac efallai y bydd cyfanswm yr amser a dreulir oddi cartref yn hwy na'r hyn a ddisgwylir.

Dylid mynd i'r afael yn glir â manylion megis cyfrifo 'diwrnod' o wyliau, yn cynnwys gwyliau statudol.

Rhaid sicrhau mai anghenion y busnes yw'r flaenoriaeth wrth ystyried unrhyw gais i amrywio oriau gwaith – nid oes fawr o ddiben sicrhau bod switsfwrdd ar agor am 0600 os nad oes neb arall yn y gwaith a neb yn ffonio. Ar y llaw arall, pe bai ymestyn yr oriau gwaith i gynnwys nosweithiau neu benwythnosau yn well o ran diwallu anghenion y gwasanaeth, yna gall amrywio oriau gwaith mewn ymgynghoriad â'r staff dan sylw, fod yn fuddiol i'r ddwy ochr.

‘Drwy gywasgu fy amser yn bedwar diwrnod, gallaf wneud fy holl waith ty ar y diwrnod bant a mwynhau fy mhenwythnosau unwaith eto’ - gweithiwr Oriau Cywasgedig.

<< Back to previous page