Contract Tymor Penodol
Fel yr awgryma'r enw, dyma ffurf ar gontract lle mae'r cyflogai yn rhwym wrth gontract cyflogaeth am gyfnod diffiniedig lle mae'r gyflogaeth yn dod i ben ar y dyddiad y daw'r contract i ben.

Mantais hyn, yn gyffredinol, yw na chaiff unrhyw ffioedd asiantaeth eu cynnwys oni bai y defnyddir asiantaeth recriwtio i gyflwyno ymgeiswyr ar gyfer dethol. Mae gan bob parti, cyflogai, rheolwr a'r sefydliad ehangach, ddealltwriaeth glir o'r cynllun cyfan.

Mae'n ddefnyddiol iawn mewn perthynas â rheoli prosiect, lle caiff tîm ei sefydlu er mwyn gwneud gwaith penodol. Os yw'r gwaith hwnnw wedi'i ddiffinio'n glir, gellir gadael y dyddiad y daw'r gyflogaeth i ben yn amwys, a'i ddiffinio fel 'y dyddiad pan gaiff y prosiect ei gwblhau’. Yna mae'n rhaid i'r sefydliad roi hysbysiad terfynu a all, o dan rai amgylchiadau eraill, gael ei ymgorffori yn y contract gwreiddiol.

Ni ddylid trin cyflogeion â chontractau tymor penodol yn llai ffafriol na grwpiau eraill, er enghraifft mewn perthynas â gwyliau neu dâl salwch. Byddant yn cael hawliau cyflogaeth arferol yn ystod eu cyfnod gwasanaeth, yn cynnwys yr hawl i gael tâl diswyddo statudol.

Gall y contract cychwynnol fod am gyfnod hwy na phedair blynedd. Os caiff y cyfnod tymor penodol cychwynnol ei ymestyn, naill ai drwy i'r gyflogaeth barhau (nad yw'n arfer da) neu drwy gynnig cyfnod pellach yn benodol, fel bod cyfanswm y cyfnod yn fwy na phedair blynedd, yna bydd y cyflogai, yn awtomatig, yn cael hawliau cyflogaeth barhaol. Mae hyn oni bai bod yr adnewyddiad sy'n gwneud y cyfnod yn hwy na phedair blynedd yn cynnwys 'cyfiawnhad gwrthrychol' dilys i'r contract beidio â bod yn barhaol. Ceir gwahaniaeth barn o ran ystyr 'dilys'.

Gweler: http://www.berr.gov.uk/employment/employment-legislation/employment-guidance/page18475.html


Mae angen i unrhyw un ar gontract tymor penodol gael ei oruchwylio'n ofalus, a dylid ei hysbysu y disgwylir i'w gyflogaeth orffen ar y dyddiad y daw'r contract i ben. Yna rhaid i gynrychiolwr y cyflogwr, fel arfer y goruchwyliwr llinell sy'n gweithio yn ôl canllawiau gan yr adran adnoddau dynol, geisio lliniaru canlyniadau terfynu'r gyflogaeth, drwy wneud ymdrechion gwirioneddol i helpu'r unigolyn i ddod o hyd i swydd arall yn yr un sefydliad. Efallai y bydd pobl ar gontractau tymor penodol yn cael blaenoriaeth o ran cael eu hystyried ar gyfer ceisiadau am swyddi mewnol, er enghraifft.

Nid yw cynnig swydd barhaol i rywun sydd wedi profi ei werth mewn cyflogaeth tymor penodol yn ei gwneud yn ofynnol i dalu ffi gyflwyno sy'n arferol gyda gweithwyr dros dro o asiantaethau. Ond, mae'r defnydd o gontractau tymor penodol fel prawf yn unig yn annhebygol o gael ei ystyried yn briodol.

Mae dwy brif risg yn gysylltiedig â defnyddio cyflogaeth tymor penodol. Yn gyntaf, nad yw'r oruchwyliaeth barhaus wedi ceisio lliniaru effaith y terfynu. Yn ail, bod y gyflogaeth, na fu'n destun prosesau mewnol, yn parhau dros bedair blynedd gan greu statws parhaol a'r posibilrwydd o ddiswyddo annheg.

Fodd bynnag, pan gaiff ei rheoli a'i gweinyddu'n gywir mewn amgylchiadau priodol, gall cyflogaeth tymor penodol fod yn ddefnyddiol iawn.

<< Back to previous page