A ydych chi'n unigolyn disglair, brwdfrydig, penderfynol sy'n barod am yrfa heriol mewn sefydliad blaengar deinamig?
Os felly, efallai y bydd gan Swyddfa Archwilio Cymru'r yrfa ar eich cyfer!
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn chwilio am Hyfforddeion Archwilio a Thechnegwyr Archwilio Ariannol. Mae swyddi gwag yn bodoli yn Ne Cymru.
Bydd angen i chi fod â gwir ddiddordeb mewn archwilio yn y sector cyhoeddus, ynghyd â pharodrwydd i ddysgu a datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd. Yn gyfnewid, byddwn yn eich cefnogi chi i astudio tuag at gymhwyster cyfrifeg proffesiynol cydnabyddedig ac yn darparu portffolio amrywiol a diddorol o waith archwilio cyfrifon amrywiaeth o gyrff y sector cyhoeddus a fydd yn eich annog i ddatblygu'r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad i fod yn broffesiynolyn cymwys.
Am fanylion pellach ynglyn â swyddogaethau Hyfforddeion Archwilio a Thechnegwyr Archwilio Ariannol, a sut i wneud cais defnyddiwch y dolenni canlynol:
Hyfforddai Archwilio
Pecyn Recriwtio Hyfforddai Archwilio
Swydd-ddisgrifiad Hyfforddai Archwilio
Ffurflen Gais Hyfforddai Archwilio
Ffurflen Fonitro Cyfle Cyflogaeth Cyfartal Swyddfa Archwilio Cymru
Os hoffech chi ddarllen am brofiadau rhai Hyfforddeion Archwilio blaenorol, gweler y dolenni isod:
Profiadau Dylan Rees
Profiadau Neall Hollis
Profiadau Ryan Price
Buddion ac Anghenion Hyfforddeion a Thechnegwyr Swyddfa Archwilio Cymru
Anfonwch eich Ffurflen Gais a Ffurflen Fonitro Cyfle Cyflogaeth Cyfartal Swyddfa Archwilio Cymru i'r cyfeiriad perthnasol:
Hyfforddai Archwilio
AuditTrainee.Recruitment@wao.gov.uk
Os nad ydych chi'n gallu cyflwyno copi electronig, anfonwch eich ffurflen gais wedi'i llenwi at:
Adran Adnoddau Dynol
Swyddfa Archwilio Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â SHL i gynnal ei profion seicometrig arlein.
Felly, pan yn cwblhau eich cais, a wnewch chi sicrhau eich bod yn darparu manylion cyswllt ebost a ffôn cywir.
Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch ag Russell Higgins ar 029 2032 0538 neu Sian Grianger 029 2032 0547.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9.00am, ddydd Llun 10 Mehefin 2013.