07/12/2012
Yn dilyn fy llythyr ar 2 Rhagfyr 2011, rwyf bellach mewn sefyllfa i allu ymateb i'ch cais am wybodaeth, a oedd yn gofyn:
Faint o dendrau a dyfarniadau mae "Grwp Carbon Isel/Digarbon Cymru", sy'n un o gyrff Llywodraeth Cymru, wedi'i wneud rhwng 07/2009 a 09/2011, yn cynnwys enwau a chyfeirnodau'r tendrau hynny, a'r cwmni neu'r corff sydd wedi ennill y tendrau hynny?
Hyd y gwelaf i, nid ydym yn cadw unrhyw wybodaeth gofnodedig sy'n bodloni eich cais. Gan eich bod yn gofyn am wybodaeth sy'n ymwneud â grwp a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, efallai yr hoffech gyflwyno'ch cais am wybodaeth i Lywodraeth Cymru.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am y ffordd rwyf wedi ymdrin â'ch cais, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Yn gywir,
Ian Phillips
Arbenigwr Cydymffurfio