Pwy sy'n ein Archwilio ni?

Fel corff cyhoeddus, rydym yn gyfrifol am wario ein harian, ac yn gweithredu ein busnes, yn ddoeth ac yn ddidwyll.

Rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif. Er mwyn rhoi sicrwydd i'r trethdalwyr, rydym yn destun craffu annibynnol mewn nifer o ffyrdd.

Ein cyllid

Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodwyd gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bob blwyddyn, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyflwyno cynlluniau gwariant ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad ar gyfer cymeradwyaeth.

Mae'r amcangyfrif diweddaraf o incwm a gwariant, ynghyd ag adroddiad blynyddol a chyfrifon yr Archwilydd Cyffredinol ar gael yn adran Ein Cynlluniau a Chyfrifon o'n gwefan.

Ein gweithgareddau

Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi sefydlu Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, sydd â chadeirydd annibynnol, Deep Sagar.

Aelodau'r Bwrdd yw'r Archwilydd Cyffredinol ac aelodau eraill o'i bwyllgor gweithredol, ynghyd â chadeiryddion tri phwyllgor llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, sydd oll â phedwar aelod annibynnol anweithredol.

Mae'r pwyllgorau oll yn cyfarfod tua pedair gwaith y flwyddyn ac yn darparu craffu allanol ac yn adolygiad o swyddogaethau Swyddfa Archwilio Cymru.

Mae'r aelodau i gyd yn meddu ar brofiad sylweddol ar lefel uwch reolwyr o fewn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Mae gan Gadeiryddion y pwyllgorau linell adrodd annibynnol i Gadeirydd Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg (ARMC) yn craffu ar feysydd o risg, rheolaeth a llywodraethu. Aelodau'r pwyllgor yw:
Gilbert Lloyd (Cadeirydd)
Chrissie Hayes
Denver Lynn
Haydn Warman

Mae'r Pwyllgor Taliadau yn canolbwyntio ar bob agwedd ar gydnabyddiaeth staff Swyddfa Archwilio Cymru. Yr aelodau yw (o'r chwith i'r dde):
Michael Heap
Elizabeth Haywood
Rosamund Blomfield-Smith (Cadeirydd)
David Stanton

Mae'r Pwyllgor Adnoddau yn edrych ar drefniadau Swyddfa Archwilio Cymru o ran rheoli staff ac adnoddau eraill, yn cynnwys cyllid a thechnoleg gwybodaeth. Aelodau'r pwyllgor yw (o'r chwith i'r dde):
Steve Burnett
Mary Champion
Mike Brooker (Cadeirydd)
Arun Midha