Gwneud i Arian Cyhoeddus Gyfrif
Swyddfa Archwilio Cymru yw corff gwarchod gwasnaethau cyhoeddus Cymru.
Ein nod yw fod pobl Cymru yn gwybod a yw arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n ddoeth, a bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn deall sut i wella canlyniadau.
Ein sefydliad
Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn annibynnol ar y llywodraeth ac yn arwain Swyddfa Archwilio Cymru.
Mae 250 o staff Swyddfa Archwilio Cymru yn cefnogi'r Archwilydd Cyffredinol, yn gweithio mewn swyddfeydd ledled Cymru.
Mae'r staff yn cynnwys archwilwyr ariannol (sydd yn arolygu cyfrifon cyrff cyhoeddus), archwilwyr perfformiad (sydd yn arolygu sut y darperir gwasanaethau cyhoeddus) a staff corfforaethol (mewn gwasanaethau megis adnoddau dynol, TG a chyfathrebu).
Ein hanes
Cafodd Swyddfa Archwilio Cymru ei greu ar 1 Ebrill 2005 yn dilyn uniad y Comisiwn Archwilio yng Nghymru a Swyddfa Archwilio Genedlaethol Cymru.
Rhoddodd hyn un corff archwilio i Gymru, fel yn yr Alban, sydd yn delio â phob sector o lywodraeth, heblaw am y sectorau nad ydynt wedi eu datganoli, sydd wedi eu neilltuo i lywdoraeth y DU.
Yn ogystal â chreu Swyddfa Archwilio Cymru, ehangodd y gyfraith bwerau'r Archwilydd Cyffredinol i ddilyn y 'bunt gyhoeddus' be bynnag yr âi. Golyga hyn y gall yr Archwilydd Cyffredinol arolygu cwmnïau sector cyhoeddus ble y mae arian cyhoeddus wedi cael ei dderbyn.
Ein bwriad
Am fwy o wybodaeth am ein gwaith, ewch i adran Ein Gwaith y wefan hon.