Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch
...ac annog Presenoldeb
Croeso i'n canllaw
Mae'r canllaw hwn yn nodi system gynhwysfawr a chynaliadwy ar gyfer rheoli absenoldeb oherwydd salwch a hyrwyddo presenoldeb ym maes gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
| Dull Proffilio a Rhestr Wirio |
Bydd y tudalennau yma yn eich helpu i ddeall y broses o reoli absenoldeb oherwydd salwch yn eich sefydliad |
| Cyfeiriadur A i Y ac Astudiaethau Achos Cymru | Defnyddiwch y tudalennau hyn i nodi'r arfer da a fydd yn eich helpu i wella |
Mae rheoli absenoldeboherwydd salwch yn bwnc pwysig i bob sefydliad gwasanaeth cyhoeddus yng Nghmru, o gofio bod pob un ohonynt yn dibynnu ar gyfraniad staff i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn gyson. Mae sawl sefydliada eisoes yn cymryd rhai camau gweithredu i hyrwyddo gwell presenoldeb. Yn y canllawiau hyn ac yn ein gwaith eang rydym yn ceisio nodi, gwerthuso a hwyluso trosglwyddo arfer da o fewn sectorau a rhyngddynt.
Bydd eich sefydliad yn debygol o elwa o fabwysiadu unrhyw un o'r camau a danlinellir yn y canllaw, ond dim ond os mabwysiedir y system gyfan y ceir y buddiannau mwyaf.
Yr un 'cyfarwyddyd' syml yw bod hwn yn fater llywodraethu sylweddol y dylid ymdrin ag ef ar y lefelau uchaf.
Cyn ystyried unrhyw gamau gweithredu, rydy yn argymell y dylid defnyddio'r rhestrau gwirio a'r dull proffilio sefydliad i nodi eich blaenoriaethau.
Er ei bod yn anochel, wrth gwrs, fod pobl yn dioddef o salwch, mae hefyd yn amlwg bod:
Gan fod tua 28% o'r bobl sy'n gweithio yng Nghymru wedi'u cyflogi mewn gwasanaethau cyhoeddus, gallai effaith gadarnhaol ar hybu iechyd o fewn y gweithluoedd hynny hefyd gael effaith gadarnhaol ar les y genedl.
Cwmpesir budd hirdymor hybu iechyd ar draws y gweithlu hwn yn dda gan 'Safon Iechyd Gorfforaethol' Llywodraeth Cynulliad Cymru.
|
A wyddoch chi? Mae'r budd yn sgîl lleihau nifer cyfartalog y diwrnodau a gollir bob blwyddyn yn y sector cyhoeddus Cymraeg o un yn unig, yn cyfateb i £27 miliwn ychwanegol i'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gall hyn gael ei gyflawni drwy gael diwrnod o waith gan staff a delir eisoes yn unig. Bydd lleihau y nifer cyfartalog o ddiwrnodau a gollir y flwyddyn yn gyffredinol o un yn unig yn creu cyfraniad ychwanegol o: 90,000 o ddiwrnodau person yn GIG Cymru, Bydd y lleihad cyffredinol yn gyfanswm o 1,000 o staff llawn amser ychwanegol. Gallai'r gost yn sgîl absenoldeb i gynnal gwasanaethau hanfodol ymddangos hefyd fel goramser, locwm, ffioedd cyflenwi neu asiantaeth. Nid yn unig mae hyn yn dyblygu'r arian a delir eisoes fel tâl salwch, ac a all fod yn gostus iawn fel bod un diwrnod o absenoldeb yn costio hyd at 240% o gost cyflogaeth sylfaenol pan fo'r gyllideb wedi'i pharatoi ar gyfer 100%. |
Mae'r canllaw yma ar reoli absenoldeb oherwydd salwch cynaliadwy wedi ei ddatblygu fel rhan o'n gwaith arfer da ehangach a'n gwaith i gefnogi 'Creu'r Cysylltiadau'. Mae wedi ei ddarparu fel cyfarwyddyd a deunydd cyfeirio ar gyfer holl sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r cyngor, y deunydd a'r astudiaethau achos o fewn y gyfnewidfa wedi dod o amryw o ffynonellau ac wedi eu cyflenwi i Swyddfa Archwilio Cymru gyda chaniatâd ffurfiol y partïon awdurdodedig. Cynorthwyo yn unig yw bwriad y canllaw ac nid yw Swyddfa Archwilio Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb i drydydd parti mewn perthynas â hawlio, atebolrwydd, colled neu niwed o ganlyniad i ddibynnu'n ormodol ar y wybodaeth a gyflwynir yn y canllaw.
Dilynwch y cyswllt hwn i'r Golwg Gyffredinol: Prosesau Rheoli Absenoldeb oherwydd Salwch.