Risgiau Sylweddol

Mae hwn yn cwmpasu dau faes pwysig o risg y mae'n rhaid eu bod yn peri pryder i bob corff gwasanaeth cyhoeddus:

  1. Costau ymgyfreitha posibl
  2. Absenoldeb staff allweddol

1.   Costau ymgyfreitha posibl

Er bod rhesymau anhunanol dros hyrwyddo lles ac iechyd da ymhlith staff gwasanaethau cyhoeddus, mae risg gynyddol o erlyniad hefyd, gyda chosbau sylweddol posibl:

Mae taflen UNSAIN 'Stress at Work, a Guide to Safety reps' (gweler www.unison.org.uk ) yn dangos hyn gydag enghreifftiau lle y mae sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn y DU wedi cael eu herlyn, ac wedi gorfod gwneud dyfarniadau cosbol i'r cyflogai.
Mae'r rhain yn amrywio fel a ganlyn:

£25,000 Rheolwyr 'macho'.
£67,000 Methu â chynorthwyo cyflogai wrth iddo wynebu aelodau treisgar o'r cyhoedd.
£85,000 Iawndal am fwlio, aflonyddu a bygwth dros nifer o flynyddoedd.
£175,000 Methu ag ail-addasu llwyth gwaith a oedd yn achosi straen enfawr.
£203,000 Methu â diogelu staff rhag trais a chamdriniaeth gan y cyhoedd.

Ni chaiff y ffioedd cyfreithiol yr aeth y sefydliadau dan sylw iddynt eu cyhoeddi, ond maent yn debygol o fod wedi ychwanegu'n sylweddol at gostau'r achosion hyn, ynghyd ag amser rheolwyr.

Er bod y rhain yn achosion eithriadol, gwelir rhai pwyntiau amlwg:

  1. Ym mhob un o'r achosion hyn,  bu'r cyflogai dan sylw yn absennol oherwydd salwch am gyfnod hir i ddechrau, a gellir dadlau pe bai'r sefydliadau hynny wedi bod yn defnyddio systemau effeithiol i adolygu cynadleddau achos, gellid bod wedi osgoi'r canlyniadau ofnadwy (hunanladdiad, anabledd parhaol, ac ati) a'r erlyniadau.
  2. Dychwelodd yr aelodau o staff a fu'n absennol i'r gwaith i wynebu nid yn unig llwyth gwaith nad oedd wedi newid, ond mewn gwirionedd sefyllfa waeth, o ran y ffaith bod eu gwaith achos hwy wedi cronni - nid oedd wedi cael ei neilltuo i rywun arall - ac roedd yn aros i gael ei gwblhau ar frys.
  3. Un o nodweddion cyffredin nifer o'r achosion proffil uchel oedd bod gwaith yr unigolion dan sylw yn golygu eu bod treulio cryn dipyn o amser yn delio ag aelodau o'r cyhoedd a oedd yn anodd eu trin a dweud y lleiaf ac y gellid eu disgrifio'n well drwy ddweud eu bod yn elyniaethus, o ran y ffaith eu bod yn defnyddio trais llafar yn rheolaidd.
    Mae'n werth nodi y gwelir rhai o'r lefelau uchaf o absenoldeb mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ymhlith galwedigaethau â'r un risg honno.
    Ble bynnag y nodir risg i ddiogelwch cyflogai neu grwp o gyflogeion, mae gan y sefydliad ddyletswydd gofal i'w staff a rhaid iddo gymryd camau i oresgyn neu liniaru'r risg honno.
    Mae'r gwaith ymchwil i straen yn y gweithle yn cadarnhau bod y risg o rywun yn gorweithio fwyaf lle mae'r alwedigaeth yn rhoi pwysau emosiynol ar y cyflogai.
    Gallai defnyddio'r Cynllun Prosiect a ddisgrifir yn y Canllaw helpu i ddod o hyd i ffyrdd o liniaru'r risgiau angenrheidiol.

2.  Absenoldeb staff allweddol

Yn anffodus, ceir cofnod o absenoldeb byrdymor ymhlith y swyddogion lefel uchaf mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'n arfer da i'r pwyllgor craffu, bwrdd, neu gyfwerth sicrhau bod gan y sefydliad gynlluniau pendant ar waith i sicrhau parhad y gwasanaeth mewn argyfwng o'r fath.

Dylai'r cynlluniau hynny gael eu cwmpasu yn y matrics sicrhau risgiau.

Ni ddylai'r cynlluniau hynny ddibynnu ar uwch aelodau o staff sydd eisoes o dan straen yn ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol. Os mai'r ffordd orau posibl o gyflenwi swydd benodol yw gofyn i gydweithiwr gyflawni'r dyletswyddau dros dro, yna dylid gwneud yr un trefniadau ar gyfer swydd yr unigolyn hwnnw, ac yn y blaen tan fod y 'bwlch' sy'n ymddangos yn un y gellid ei gwmpasu'n rhesymol gan gyfarwyddwr dros dro, ond dylid nodi bod costau hynny (yn ôl gwerthoedd 2006) yn debygol o fod yn <£600 y diwrnod.

Y ffordd arferol o lunio cynlluniau cyflenwi o'r fath yw defnyddio siart y sefydliad gydag enw'r sawl a fydd yn cyflenwi'r swydd dros dro wedi ei nodi'n glir, ac yna sicrhau y caiff pob unigolyn o'r fath y cyfle i wella eu cymhwysedd cyn bod unrhyw argyfwng yn codi.

Gall darparu staff yn ystod cyfnod o absenoldeb fod yn gyfle i ddatblygu, os caiff ei gynllunio a'i reoli'n briodol. Byddai'r prosesau o wella cymhwysedd y darpar gyflenwr yn cynorthwyo datblygiad y'r unigolyn hwnnw yn glir.

Mae system o baratoi ar gyfer darparu staff cyflenwi yn gorgyffwrdd yn amlwg â chynlluniau datblygu personol ac mae'n arfer da i ymestyn cynlluniau o'r fath i reolwyr ar draws y sefydliad.

Wrth i raglenni Rheoli Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru ddatblygu, ac wrth i sefydliadau fanteisio ar y cyfleoedd a grëir gan 'Creu'r Cysylltiadau', gobeithir y gellir darparu staff dan secondiad o sefydliad arall yn absenoldeb hirdymor staff. Ond ni fydd hyn yn digwydd oni chaiff ei ddiffinio fel amcan ac oni roddir y seilwaith ategol angenrheidiol ar waith.