Mewn llawer o swyddi gall fod yn ddeniadol defnyddio amgylchedd gwaith sy'n rhydd o'r ymyriadau a'r swn sy'n gysylltiedig â'r gweithle traddodiadol. Mae lleihau amser teithio a chost a'r gallu i ryngweithio drwy e-bost a dros y ffôn pan fydd angen cysylltu, oll yn gwneud gweithio gartref yn ddeniadol.
Dylid ystyried y ffactorau lefel uchel canlynol.
- A yw natur y gwaith yn addas ar gyfer gweithio gartref? Gall yr ymyriadau hynny a'r swn hwnnw fod yn hanfodol ar gyfer darparu gwasanaethau.
- Ymddiriedaeth. Mae llawer o reolwyr sy'n cael cais gan aelod tîm i weithio gartref yn ymateb yn negyddol. Maent yn meddwl: 'Os na allaf ei weld, sut rwyf yn gwybod ei fod yn gweithio?'
Gall yr ymateb hwn ddweud mwy am y Rheolwr na'r cyflogai. Efallai fod ymdeimlad Rheolwr o reolaeth ond yn seiliedig ar bresenoldeb, y siaced ar y gadair,yn hytrach nag ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth drwy safonau wedi'u diffinio'n glir ac allbynnau a gaiff eu monitro drwy reoli perfformiad effeithiol.
Ond, nid yw pob swydd/rôl yn addas ar gyfer gweithio gartref; er enghraifft, lle ceir lefel uchel o ryngweithio wyneb yn wyneb neu lle mae angen defnyddio cyfarpar penodol.
- Amgylchedd y cartref. Mae'n anghywir tybio bod pawb yn byw mewn maestref wledig o filas ar wahân gydag ystafelloedd sbâr i greu swyddfa, a gall fod mwy o ymyrraeth yn y cartref nag yn y gwaith. Mae dyletswydd y cyflogwr i ofalu am staff yn bodoli waeth beth yw lleoliad eu gwaith.
- Dylai polisïau sefydliadol ddarparu canllawiau galluogi clir. Ni ddylai hyn fod yn ymwneud cymaint â chydymffurfiaeth fel bod hyn yn rhwystr i reolwyr llinell prysur.