Dylai unrhyw un sy'n ystyried datblygu strategaeth Ffyrdd Callach o Weithio ystyried y materion canlynol:
Cost
Mae'r gost o alluogi aelod o staff i weithio gartref yn llawn amser yn cynnwys:
| Desg | £300 |
| Cadair | £100 |
| Cyfrifiadur | £300 |
| Cyfanswm |
£700, caniatáu dibrisiant o £140 y flwyddyn dros bum mlynedd |
| Lwfans* | £150 y flwyddyn (ar gyfer gwres, pwer ychwanegol ac ati) |
| Rhyngrwyd | £240 y flwyddyn |
| Ffôn | £150 y flwyddyn |
| Cyfanswm | £680 y flwyddyn |
Mae cost darparu gweithfan mewn swyddfa hefyd yn cynnwys desg, cadair a chyfrifiadur, er y gall y gofynion o ran gweithio gartref fod yn rhai nad ydynt yn safonol.
Mae'r costau lle yn dibynnu ar ddarpariaeth bresennol y sefydliad. Efallai nad arbedir costau os oes digon o le swyddfa ar gael, ond os ystyrir darpariaeth newydd (prynu neu rentu), yna caiff pob cyflogai, yn gyffredinol, ei ystyried lle mae angen chwe metr sgwâr (gan ganiatáu ar gyfer symud a chyfleusterau).
Felly os yw'r sefydliad yn bwriadu rhentu, gyda llety swyddfa yn £15 fesul metr sgwâr, arbedir £90 y pen y flwyddyn.
Os bydd angen adeilad newydd, ac eithrio cost tir, y gost ar gyfartaledd yw £1,500 fesul metr sgwâr, sy'n arwain at arbed £9,000 yr unigolyn.
Mae astudiaeth achos gan Actium Consult ar leihau'r fanyleb ar gyfer yr adeilad cyngor newydd ar gael ar y linc canlynol http://www.actiumconsult.co.uk/news_detail.php?news_id=2
Gwella gwasanaethau
Gall arloesedd amrywio o atebion uwch-dechnoleg i welliannau syml o ran trefniant gwaith wedi'i alluogi gan batrymau presenoldeb hyblyg.
http://www2.bt.com/static/i/media/pdf/yorkshire_water_cs.pdf
Mae astudiaeth achos BT yn dangos y datblygiadau o ganolfannau 'galwadau' i ganolfannau 'cyswllt' i integreiddio darparu gwasanaethau ag anghenion cwsmeriaid.
Ymgysylltu â chyflogeion
Cafwyd tua 22,000 o ymatebion i Arolwg Cysylltiadau yn y Gweithle 2004. Mae'n cadarnhau bod gweithwyr rhan amser a'r rhai â chontractau hyblyg yn aml yn fwy ymrwymedig na staff arall.
http://www.wers2004.info/research/primaryanalysis.php
Mae gweithio hyblyg yn ategu gwell cydbwysedd bywyd a gwaith, gan wella cynhyrchiant a lleihau trosiant. Nododd 68 y cant o gyflogwyr a holwyd gan y CIPD fod y cyfle i weithio'n hyblyg wedi cael effaith gadarnhaol ar agweddau a morâl cyflogeion.
Mae'r gost yr eir iddi yn sgîl rhywun yn gadael y sefydliad yn cynnwys:
Canfu Cyngor Wrecsam fod cyflwyno dewisiadau gweithio hyblyg wedi lleihau salwch a throsiant staff yn sylweddol. Cliciwch yma i weld yr astudiaeth achos.