Gall buddsoddi mewn arloesedd technolegol drawsnewid y broses o ddarparu gwasanaethau a bywydau gwaith, gwella boddhad defnyddwyr a gwella ymgysylltiad â chyflogeion.
Trosglwyddiad Pelydr-x Digidol
Mae "PACS" (System Archifo Lluniau a Chyfathrebu) wedi trawsnewid gwasanaethau ysbytai. Mae'r arfer o orfod aros am yr amlen frown fawr gyda'r ffilm pelydr-x wedi hen ddiflannu. Heddiw caiff y ddelwedd wreiddiol ei storio'n uniongyrchol yn PACS a'i dadansoddi ar y sgrîn - ble bynnag y mae'r claf yn yr ysbyty, mae modd gweld y ddelwedd. Gall meddygon ymgynghori â chydweithwyr gan gynnwys pawb, hyd yn oed os byddant yn Awstralia, gan edrych ar yr un ddelwedd.
Sefyllfa ennill-ennill - Gwasanaeth gwell i gleifion - nid oes angen aros i'r amlen gyrraedd, ac nid oes risg mai amlen rhywun arall ydyw. Gwell gofal meddygol drwy gynnwys arbenigwyr lle bynnag y maent.
Gwell boddhad staff - dim rhagor o rwystredigaeth bod yr amlen frown bob amser yn y lle anghywir, fel arfer ar ochr arall yr ysbyty. Gwell eglurder o ran y ddelwedd, gan alluogi diagnosis cywirach.
Gwell system rheoli costau - costau sylweddol is wedi'u cofnodi gan y safleoedd sydd wedi'i rhoi ar waith yn gynnar.
Ystafell Gynadledda Rithwir
Er bod llawer o sefydliadau'n weddol gyfarwydd â "fideo-gynadledda", nid oes llawer wedi uwchraddio'r dechnoleg sy'n datblygu cyngyflymed ag ar gyfer ffonau symudol a sgriniau teledu. Mae'r tafluniad aneglur ar y wal yn hen arfer erbyn hyn, gyda delweddau sgrîn fflat modern sydd mor dda fel bod rhai cyfranogwyr wedi ceisio estyn draw i ysgwyd llaw.
Sefyllfa ennill ennill - Amser staff yn teithio i fynd i gyfarfodydd - sawl awr yn y car / ar y trên / mewn awyren? Beth yw'r ôl-troed carbon? A yw'r daith yn angenrheidiol mewn gwirionedd? Fel gyda ffonau a setiau teledu, mae costau telegynadledda yn lleihau.
Arddweud Digidol
Mae arddweud i mewn i beiriant digidol yn galluogi trosglwyddo'r geiriau hynny i unrhyw ran o'r byd - yn cynnwys swyddfa ar safle arall yn yr un sefydliad - er mwyn i'r hyn a gafodd ei arddweud gael ei drawsgrifio gyda'r hwyr (gweithio hyblyg) neu'r bore yn lle aros mewn pentwr.
Sefyllfa ennill ennill - Gwell gwasanaeth i gwsmeriaid drwy ymateb cyflymach. Gwell boddhad staff drwy ddileu rhwystrau sy'n peri rhwystredigaeth. Gwell system rheoli costau.
Gweithio Symudol
Mae llawer o rolau swydd yn golygu dod i mewn peth cyntaf yn y bore er mwyn cael cyfarwyddiadau ar gyfer y diwrnod, neu i gasglu'r gwaith papur y bydd ei angen ar gyfer y swydd benodol. Erbyn hyn gall y gwaith papur neu'r cyfarwyddiadau gael eu hanfon i'r gliniadur neu ddyfais llaw er mwyn i'r aelod o staff allu mynd ati'n syth, heb orfod teithio i'r swyddfa. Yn yr un modd, gall yr 'allbwn' o'r ymweliad, boed hwnnw'n adroddiad, Ffurflen neu nodiadau, gael eu trawsgrifio ar yr un ddyfais a'u trosglwyddo yn ôl heb orfod teithio.
Y sefyllfa ennill ennill - Gwasanaeth gwell i'r cleient, drwy fod ar y safle ar ddechrau'r diwrnod yn hytrach na chanol y bore ar ôl mynd i gasglu'r papurau ac yna teithio i'r lleoliad. Gwell boddhad staff, yn sgîl cyflawni amser mwy cynhyrchiol bob dydd yn hytrach na theithiau niferus yn ôl ac ymlaen i gasglu gwaith papur. Gwell effaith amgylcheddol, gyda llai o deithiau diangen.
Peidiwch ag anghofio - Mae'n rhaid ailganolbwyntio goruchwyliaeth, i ganolbwyntio ar ansawdd canlyniadau, a chan weithredu cynlluniau penodol i sicrhau bod aelodau tîm unigol yn dal i gyfarfod/yn cyfarfod â'i gilydd.
Y Swyddfa Ddibapur
Yn hytrach na phawb y gallai fod angen iddynt gymryd rhan mewn mater penodol yn cadw copi papur o'r holl ddogfennau perthnasol, caiff y rhain eu storio'n electronig ac fe'u gwneir yn hygyrch i sawl defnyddiwr ar yr un pryd. Nododd un sefydliad a fabwysiadodd y polisi hwn ei fod yn gallu darparu lle ar gyfer 30% yn fwy o staff yn yr un swyddfa, drwy glirio cypyrddau ffeilio pawb.
Y sefyllfa ennill ennill - Gwasanaeth gwell i gleientiaid, oherwydd gall unrhyw un sy'n gallu defnyddio'r cyfrifiadur weld y ffeil, ac felly roi ateb hyddysg. Gwell effeithlonrwydd o ran lle, gwell system rheoli costau.
Peidiwch ag anghofio - mae gweithredu system ffeilio electronig a'i rheoli'n barhaus yn swyddogaeth arbenigol, sy'n galw am staff arbenigol.