Arian cynghorau cymuned

Mae dros 740 o gynghorau lleol (cymuned a thref) yng Nghymru. Maent yn gwario tua £35 miliwn y flwyddyn. Mae cynghorau yn cael yr arian hwn o ffïoedd, taliadau a threth gyngor. Mae gwariant cynghorau unigol yn amrywio o ychydig o filoedd o bunnoedd i sawl can mil o bunnoedd. Mae pob cyngor yn gyfrifol am reoli eu harian eu hunain yn dda ac i ddiogelu eu hasedau.

Mae'r canllaw hwn yn eich helpu i edrych ar ôl arian ac asedau eich cyngor cymuned.

Mae'r canllaw yn cwmpasu'r meysydd canlynol:

Ydych chi'n rhan ohono? Os ydych yn gynghorydd, clerc, archwilydd neu'n aelod o'r cyhoedd, mae gennych rôl wrth reoli arian ac asedau cynghorau cymuned.
Rheoli arian cynghorau cymuned Mae hwn yn nodi'r hyn sydd angen i'ch cyngor ei ystyried er mwyn diogelu ei arian a'i asedau.
Astudiaethau achos Mae'r astudiaethau achos hyn yn nodi enghreifftiau go iawn er mwyn helpu eich cyngor i wella'r ffordd mae'n rheoli arian ac asedau cymunedol.
Rhestr wirio Mae'r rhestr wirio yn eich helpu i nodi gwelliannau o ran sut mae eich cyngor yn rheoli ei arian a'i asedau.
Cyfeiriadur Mae'r cyfeiriadur yn esbonio'r holl dermau technegol a ddefnyddir yn y canllaw hwn. Mae hefyd yn cynnwys dolenni defnyddiol i ddogfennau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
Dolenni defnyddiol Mae'r dolenni hyn yn eich cyfeirio at wybodaeth a chyngor a allai fod yn ddefnyddiol i chi o ran rheoli arian ac asedau cymunedol.

*