Dolenni defnyddiol

Bydd y dolenni canlynol yn eich tywys i rai o'r gwefannau rheoli adeiladau mwyaf defnyddiol.

Sefydliadau

Rheoli eiddo ac asedau

Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) - mae RICS yn sefydliad sy'n cynrychioli gweithwyr proffesiynol ym maes eiddo.
Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru (CLAW) - mae CLAW yn cefnogi buddiannau proffesiynol a thechnegol gweithwyr rheoli eiddo proffesiynol mewn llywodraeth leol yng Nghymru.
Ffederasiwn y Cymdeithasau Eiddo (FPS) - mae FPS yn sefydliad mantell sy'n arddel barn ar faterion yn ymwneud ag eiddo mewn llywodraeth leol.
Cymdeithas y Prif Swyddogion Eiddo Corfforaethol mewn Llywodraeth Leol (COPROP) - mae COPROP yn helpu swyddogion eiddo corfforaethol llywodraeth leol i reoli asedau mewn modd strategol ac effeithiol.
Cymdeithas y Prif Syrfewyr Ystadau a Rheolwyr Eiddo yn y Sector Cyhoeddus (ACES) - mae ACES yn hyrwyddo gwaith rheoli asedau ac ystadau da yn y sector cyhoeddus. Mae'r sefydliad yn cynrychioli uwch weithwyr proffesiynol ym maes eiddo mewn awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan gynnwys awdurdodau tân a'r heddlu a swyddfeydd llywodraeth ganolog.
CIPFA Property - mae CIPFA Property yn gweithio'n agos gyda sefydliadau llywodraethol a phroffesiynol i roi arweiniad a datblygu arfer da ym maes rheoli eiddo ac asedau yn y DU.
Y Sefydliad Rheoli Asedau (IAM) - mae IAM yn gorff proffesiynol i bobl sy'n ymwneud â chaffael, gweithredu a gofalu am asedau ffisegol, yn enwedig seilwaith.


Adeiladu a dylunio

Adeiladu Arbenigrwydd - mae Adeiladu Arbenigrwydd yn sefydliad sy'n anelu at lywio'r agenda newid ym maes adeiladu drwy wella perfformiad y diwydiant a chreu gwell amgylchedd adeiledig.
Y Comisiwn er Pensaernïaeth a'r Amgylchedd Adeiledig (CABE) - CABE yw cynghorydd Llywodraeth y DU ar bensaernïaeth, dylunio trefol a mannau cyhoeddus.
Comisiwn Dylunio Cymru - mae Comisiwn Dylunio Cymru yn sefydliad cenedlaethol a sefydlwyd i hyrwyddo gwaith dylunio da ac amgylchedd adeiledig o ansawdd uchel.
Cymdeithas Prif Benseiri Awdurdodau Lleol (SCALA) - mae SCALA yn sefydliad sy'n cynnwys penseiri o'r sector cyhoeddus a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig sy'n ymrwymedig i gyrraedd y safonau uchaf posibl o ran datblygu, dylunio, adeiladu a rheoli ystad y sector cyhoeddus.


Cynaliadwyedd

Comisiwn Datblygu Cynaliadwy (SDC) Cymru - SDC Cymru yw corff cynghori annibynnol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ddatblygu cynaliadwy, sy'n cyflwyno adroddiadau ar feysydd polisi allweddol gan gynnwys llywodraeth leol, adfywio ac iechyd.
Canolfan Technoleg Amgen Cymru (CAT) - mae CAT yn sefydliad sy'n helpu i chwilio am dechnolegau a ffyrdd o fyw sy'n gynaliadwy yn fyd-eang, yn gyfan ac yn gadarn yn ecolegol.
BRE - mae Ymddiriedolaeth BRE yn gweithio'n agos gyda sectorau wedi'u targedu (gan gynnwys ysbytai, ysgolion, swyddfeydd, y sector manwerthu a'r sector hamdden) i'w helpu i fanteisio i'r eithaf ar arloesedd, cynaliadwyedd a sicrwydd.
Yr Ymddiriedolaeth Garbon - mae'r Ymddiriedolaeth Garbon yn gweithio gyda sefydliadau i leihau allyriadau carbon nawr, a datblygu technolegau carbon isel masnachol ar gyfer y dyfodol.
Arbed Ynni Cymru - mae Arbed Ynni Cymru yn hyrwyddo'r defnydd o fesurau arbed ynni ac yn nodi sut mae effeithlonrwydd ynni yn cynnig cyfleoedd gwirioneddol i gyflawni uchelgeisiau datblygu cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni - mae'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn darparu amrywiaeth o gyngor, cymorth a gwasanaethau i helpu awdurdodau lleol i ateb yr her o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn eu holl weithgareddau.


Gwasanaethau cyhoeddus a chymunedol

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) - mae CLlLC yn cynrychioli buddiannau awdurdodau lleol Cymru. Mae'r tri awdurdod tân ac achub, pedwar awdurdod yr heddlu a'r tri awdurdod parc cenedlaethol yn aelodau cyswllt.
Y Rhwydwaith Gwella - rhydd y Rhwydwaith Gwella adnoddau ymarferol a gwybodaeth am wella gwasanaethau cyhoeddus.
Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru (DTA Cymru) - mae DTA Cymru yn gorff cenedlaethol ar gyfer ymddiriedolaethau datblygu yng Nghymru, ac mae'n rhan o Gymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu'r DU, y rhwydwaith menter gymunedol ac adfywio.


Dogfennau cyfarwyddyd

The RICS Public Sector Asset Management Guidelines - rhydd ganllawiau ar arfer gorau ym maes rheoli asedau yn y sector cyhoeddus.
CLAW - Canllawiau ar Gynllunio i Reoli Asedau yng Nghymru a CLAW - Canllawiau Atodol ar Gynllunio i Reoli Asedau yng Nghymru - rhoddant ganllawiau i helpu awdurdodau lleol yng Nghymru i gyflawni gwell gwerth am arian o'u hasedau cyfalaf.
A Guide to Asset Management and Capital Planning in Local Authorities - mae grwp Cyfarwyddwyr Llywodraeth Leol Cyllid (yr Alban) CIPFA wedi datblygu canllawiau ar reoli asedau a chynllunio cyfalaf.
FPS Whole Life Appraisal - mae Ffederasiwn y Gwasanaethau Eiddo yn amlinellu egwyddorion arfarnu oes gyfan drwy gynnal asesiad systematig o'r holl dreuliau perthnasol, incwm a pherfformiad ased yn ystod ei oes.
FPS Compliance Monitoring in Local Authority Premises - amlinella'r prosesau sydd ynghlwm wrth asesu addasrwydd a noda rai o'r meini prawf allweddol i'w hystyried.
FPS Compliance Monitoring in Local Authority Premises - mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r meysydd allweddol lle mae angen monitro cydymffurfiaeth, ynghyd â rhywfaint o wybodaeth gefndirol a dolenni i wybodaeth bellach.
Dull Asesu Amgylcheddol BRE (BREEAM) - mae BREEAM yn ddull asesu amgylcheddol cyffredin ar gyfer adeiladau sy'n pennu'r safon ar gyfer arfer gorau ym maes dylunio cynaliadwy ac fe'i defnyddir i ddisgrifio perfformiad amgylcheddol adeilad.
Working Beyond Walls - mae'r cyhoeddiad hwn yn ystyried rôl y gweithle fel 'asiant dros newid' ac yn disgrifio gweledigaeth ar gyfer gweithleoedd y Llywodraeth yn y dyfodol.
'Llyfr Gwyrdd' Trysorlys EM - dyma'r ffynhonnell ganolog ar gyfer canllawiau ar yr asesiad economaidd o wariant a buddsoddiadau a chanllawiau cysylltiedig gan gynnwys paratoi achosion busnes ar gyfer y sector cyhoeddus.
Cynllun Amgylcheddol y Ddraig Werdd - ffordd syml o weithredu System Rheoli Amgylcheddol gydnabyddedig wedi'i Hachredu gan UKAS ac wedi'i Harolygu'n Annibynnol.
Y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd - rhydd Llywodraeth y DU ganllawiau ar gydymffurfio â'r Ddeddf hon.
Y Ddeddf Dynladdiad Corfforaethol - rhydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ganllawiau ar gydymffurfio â'r Ddeddf hon.