Yng Nghymru ceir tua 850 o gyrff cyhoeddus sy'n gwario dros £20 biliwn bob blwyddyn.
Rhaid i bob un o'r cyrff hyn lunio datganiad blynyddol o gyfrifon. Er mwyn gwella systemau rheoli ariannol y sector cyhoeddus, mae angen cyflwyno adroddiadau ar ganlyniadau ariannol cyn gynted â phosibl yn ystod y flwyddyn ac ar ôl i'r flwyddyn ddod i ben. Mae hyn yn ategu gwelliannau i'r broses o reoli adnoddau, gwneud penderfyniadau a rheoli risg yn ogystal â helpu cyrff cyhoeddus i ymateb i reoliadau sy'n pennu terfynau amser cynt ar gyfer cyflwyno adroddiadau ariannol.
Diben y canllaw hwn yw eich helpu i gynllunio ar gyfer y gwaith o gau cyfrifon eich corff yn gyflymach a gwneud hynny hy, gwella amseroldeb eich adroddiadau ariannol.
Mae'r canllaw hwn yn cynnwys yr adrannau canlynol:
Lluniwyd y canllaw hwn ar gyfer cyrff cyhoeddus a'u harchwilwyr allanol ac mae'n cynnwys yr adrannau defnyddiol canlynol:
|
Sut rydych yn ei wneud |
Newid y diwylliant; Cynllunio a chyflwyno; Gweithio yn ystod y flwyddyn; Cau cyfrifon a chyflwyno adroddiadau. |
|
Egluro'r jargon |
Bydd ein diffiniadau defnyddiol yn eich helpu i ddeall y derminoleg a ddefnyddir. |
| Astudiaethau achos cyflwyno adroddiadau ariannol amserol | Arfer da sicr o'r sector cyhoeddus a'r sector preifat i'ch cynorthwyo. |