Effeithlonrwydd ac arloesedd

Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu'r her ariannol fwyaf ers cenhedlaeth. Mae gwefan arfer da Effeithlonrwydd ac arloesedd yn rhan o'n gwaith o gefnogi gwasanaethau cyhoeddus i ymateb i'r heriau hynny.

Amcangyfrifodd ein hadroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011 y byddai gwariant cyhoeddus yn gostwng tua £1.6 biliwn mewn termau real, rhwng 2010-11 a 2013-14.

Gan ystyried yr her ariannol honno, bydd angen i wasanaethau cyhoeddus fod yn fwy effeithlon a dod o hyd i ffyrdd arloesol o weithio, er mwyn iddynt gyflawni mwy gyda llai o arian.  

Mae 'helpu cyrff cyhoeddus Cymru i wella'r ffordd y maent yn defnyddio adnoddau o fewn cyfyngiadau cynyddol yr economi a'r amgylchedd' yn un o amcanion allweddol Strategaeth Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2009-2012. Roedd Llywodraeth y Cynulliad wedi dwyn ynghyd wahanol rannau o'r gwasanaeth cyhoeddus yn ei Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesedd, fel y nodir yn ei dogfen bolisi Canlyniadau Gwell ar gyfer Cyfnod Anoddach: Y Cyfnod Nesaf o Wella Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae bellach wedi creu Grwp Arwain y Gwsanethau Cyhoeddus i barhau â gwaith y Rhaglen Effeithlonrwydd ac Arloesedd.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi gweithio gyda'r Bartneriaeth Effeithlonrwydd ac Arloesedd.  Mynychodd Archwilydd Cyffredinol Cymru gyfarfodydd y Bartneriaeth.  Ac mae staff Swyddfa Archwilio Cymru wedi bod yn bresennol ar y Byrddau ar gyfer pob un o'r ffrydiau gwaith. Yn y dyfodol, byddwn yn parhau i gefnogi'r gwaith hwn, drwy ymwneud â'r Grwp Arwain y Gwasanaethau cyhoeddus.

*