Arloesedd



Mae sawl diffiniad o arloesedd. Natur sylfaenol arloesedd yw cyflwyno rhywbeth newydd, boed yn gynnyrch (mewn cyd-destun gweithgynhyrchu) neu ffyrdd newydd o gynhyrchu neu ddarparu gwasanaeth. Rydym yn hoffi'r diffiniad hwn gan Mulgan ac Albury (2003):

'Successful innovation is the creation and implementation of new processes, products, services and methods of delivery which result in significant improvements in outcomes efficiency, effectiveness or quality'.

Yn aml, gwelir arloesedd fel ysgogydd masnachol mewn cyd-destun gweithgynhyrchu neu ymchwil a datblygu. Fodd bynnag, mae arloesedd hefyd yn bwysig i wasanaethau cyhoeddus. Bydd rhaid i sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio arloesedd wrth iddynt geisio cysoni'r cynnydd mewn galw, adnoddau sy'n lleihau ac ysgogiad i gynnal neu wella ansawdd gwasanaethau. Mae'r tudalennau gwe hyn yn rhoi rhagor o wybodaeth am reoli arloesedd yn effeithiol.

Mae hefyd yn bwysig nodi nad yw arloesi yn golygu meddwl am syniadau newydd sbon o reidrwydd neu newidiadau mawr. Ceir llawer o enghreifftiau llwyddiannus o arloesi sy'n cyfuno dau syniad sydd eisoes yn bodoli i greu gwerth neu i ddarparu gwasanaeth mewn ffordd newydd ac arloesol. A hefyd gall llawer o enghreifftiau o arloesedd gael eu hysbrydoli gan elfennau ac egwyddorion arfer o rywle arall sydd wedi'u haddasu i fodloni amgylchiadau lleol.

*