|
Pwysig cael cyngor gan y rhai sy'n gwybod.
Sylweddoli pwysigrwydd rheoli grantiau o fewn eich sefydliad. Mae hyfforddiant priodol yn hanfodol!
Mae angen i gyllidwyr a derbynwyr allu nodi eu grantiau a chael gafael ar wybodaeth reoli allweddol megis y symiau a ddyfarnwyd, y symiau a wariwyd a'r symiau a hawliwyd hyd yma yn hawdd. Bydd adroddiadau yn hysbysu'r Cyfarwyddwr Cyllid a'r uwch reolwyr. Ond gall hyn fod yn anodd os nad oes unrhyw broses cydgysylltu a rheoli ganolog a dim ond un gronfa ddata grantiau!
Creu systemau cymorth 'canolog' ee panel grantiau, cronfa ddata gynhwysfawr, canllaw paratoi prosiectau, llawlyfr gweithdrefnau a darparu hyfforddiant blynyddol i staff ar gyfer set sgiliau sylfaenol. Mae manteision cysylltiedig o ran hyder a meithrin gallu, eglurder ynghylch cyfrifoldebau, gwell dulliau o ran cyflwyno prosiectau a'r gallu i fodloni terfynau amser.
Hanfodol cynnwys pob parti (cyllidwyr, derbynwyr ac archwilwyr) yn gynnar yn y broses er mwyn meithrin cydberthnasau gwaith da. Anelu at gyfathrebu mewn ffordd agored a gonest. Gall cyswllt wyneb yn wyneb ar dir niwtral a chyfforddus fod o gymorth. Mae cytuno ar weithdrefnau ac ati o gymorth wrth drefnu gwaith, 'meddwl ymlaen' a hyfforddi staff. Bydd prosiectau sy'n rhedeg yn ddidrafferth yn dwyn ffrwyth yn ddiweddarach.
Dylai derbynwyr roi rhybudd cynnar i gyllidwyr cyn gynted ag y daw i'r amlwg efallai na chaiff amcanion eu cyflawni. Mae hyn yn osgoi sefyllfa lle mai dim ond ar ôl iddynt godi yr ymdrechir i ddatrys problemau. Drwy gydweithio, gall pob parti helpu ei gilydd a dod o hyd i atebion adeiladol er mwyn osgoi problemau'n ddiweddarach.
Cymryd cyngor gan dîm erthygl 4 WEFO cyn gweinyddu cynllun grantiau'r UE.
Defnyddio (neu gyfeirio at) 'ddogfennau protocol'. Mae'r rhain yn werthfawr os bydd eich 'arbenigwr grantiau' yn symud i rôl arall (neu gyflogwr arall!).
Sicrhau bod staff cyllid penodedig ar gyfer cynlluniau cyfalaf mawr.
Cynnwys staff cyllid ar gam cynnar er mwyn cynnwys yr holl gostau a phennu trefniadau anfonebu.
|
Mae'r hafan ar gyfer GPX Grantiau yma.
Mae ein gwefan yn cynnwys:
Gellir lawrlwytho enghreifftiau o lythyrau cynnig, telerau ac amodau a ffurflenni hawlio.
Ceir enghraifft hefyd o 'Brotocol grantiau', cyngor ar bennu rheolaethau a phrotocolau cydgysylltu, cyngor i gyllidwyr ar leihau cymhlethdod a chyngor ar 'gronfa ddata grantiau'.
Ceir cyngor i gyllidwyr ar:
'A wyf wedi ymgynghori'n briodol?'
Ceir cyngor i ymgeiswyr a derbynwyr:
'A oes gennyf ddigon o hyfforddiant a chymorth cyfredol?'
|