Mae gwella busnes yn canolbwyntio ar gamau gweithredu ymarferol i wneud gwasanaethau cyhoeddus yn well. Fel y mae'r teitl yn ei awgrymu, nid yw gwella busnes o reidrwydd yn ymwneud ag arbed arian. Mae'n ymwneud â gwneud y pethau iawn a'u gwneud yn well. Ond drwy wneud y peth iawn, mae cyfle i leihau costau.
Mae llawer o wahanol ddulliau o wella busnes. Byddwn yn ystyried pob un ohonynt wrth i'r wefan hon ddatblygu. Ymhlith y rhai y byddwn yn eu cwmpasu bydd dulliau meddylfryd systemau darbodus, atebolrwydd seiliedig ar ganlyniadau, rheoli rhaglenni a phrosiectau, a rheoli perfformiad. Rydym hefyd wedi edrych ar ddefnyddio staff yn fwy ystwyth drwy ffyrdd callach o weithio.
Mae rhai o'r dulliau hyn yn gydategol ac mae rhai ohonynt yn groes i'w gilydd. Nid bod yn benodol am ba ddull sydd orau yw ein nod yma. Gall yr hyn sy'n gweithio i un sefydliad fod yn aflwyddiannus i'r llall. Isod mae dolenni i dudalennau sydd yn egluro rhai o'r dulliau gwahanol o ran gwella busnesau. Yn ogystal, rydym wedi comisiynu y Ganolfan Ymchwil Menter Ddarbodus i gynhyrchu dau adroddiad ar ein cyfer ar Wella Busnes. Gellir dod o hyn i'r cyntaf, ar Feddylfryd Darbodus a Meddylfryd Systemau, yma. Gellir dod o hyd i'r ail, sydd yn darparu llinell sylfaen ledled y gwasnaethau cyhoeddus ac hefyd yn cynnig model ar gyfer dull systemig o ddelio â gwella busnes, yma.
Meddylfryd Darbodus a Meddylfryd Systemau