Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gwario tua £5 biliwn bob blwyddyn yn caffael nwyddau a gwasanaethau. Mae hyn yn gyfystyr ag un o bob tair punt o wariant datganoledig.
Ers sefydlu Swyddfa Archwilio Cymru, mae ein gwaith wedi ystyried agweddau amrywiol ar gaffael. Mae posibilrwydd y bydd cael gwerth da o gaffael yn creu arbedion sylweddol i wasanaethau cyhoeddus.
Mae cael gwerth o gaffael yn golygu mwy na chael y pris rhataf yn y byrdymor. Mae angen i wasanaethau cyhoeddus ystyried materion fel ansawdd a chynaliadwyedd, a'r posibilrwydd y gall costau uwch yn y byrdymor arwain at arbedion yn y tymor hwy, fel y dengys yr astudiaethau achos ar ddull oes gyfan, er enghraifft.
Gall penderfyniadau caffael cyrff cyhoeddus gael effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach hefyd.