Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
01/06/2010
Y ganolfan adnoddau yw un o'r prosiectau cyntaf yng Nghymru i lwyddo i integreiddio gwasanaethau cychwynnol a chymuned y GIG, gwasanaethau cymdeithasol a'r sectorau gwirfoddol a masnachol annibynnol.
Y ganolfan adnoddau yw un o'r prosiectau cyntaf yng Nghymru i lwyddo i integreiddio gwasanaethau cychwynnol a chymuned y GIG, gwasanaethau cymdeithasol a'r sectorau gwirfoddol a masnachol annibynnol. Wedi ei datblygu gan Fwrdd Iechyd Lleol Castell Nedd Port Talbot gynt, gyda chymorth oddi wrth Ystadau Iechyd Cymru, mae'r ganolfan hon yn cynnwys cydleoli pedwar practis meddyg teulu yn ogystal â fferyllfa a gwasanaethau deintyddol, cymunedol a therapi. Yno hefyd y mae Gwasanaeth Gofal Cymunedol Canolradd Integreiddiedig, y gwasanaethau iechyd meddwl i'r henoed, gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol a'r gwasanaethau tai wedi eu lleoli. Mae'r asiantaethau o'r sector wirfoddol sydd yno yn cynnwys Canolfannau Cyngor ar Bopeth ac Age Concern sy'n darparu gwasanaethau cynghori ac mae sefydliad lleol yn rhedeg caffi bwyta'n iach yno fel menter gymdeithasol. Bydd y datblygiad yn galluogi symud nifer o wasanaethau o ofal eilradd i ofal sylfaenol ac ar yr un pryd greu cyfleoedd ar gyfer darparu gwasanaethau diagnostig ac arbenigol. Datblygwyd y ganolfan fel ymateb i'r sialensiau strategol a ddaeth i'r fei o ganlyniad i bolisïau lleol a chenedlaethol yn cynnwys 'Cynllun Oes,' 'Adolygiad Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru' a'r 'Strategaeth Iechyd a Lles' lleol. Agorwyd y ganolfan ym mis Hydref 2009.
Manylion Cyswllt Debra Davies
Rôl: Pennaeth Gofal Sylfaenol
FFôn: 01639 683670
Ebost: Debra.Davies4@wales.nhs.uk