Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
01/01/2008
Y Ganolfan Ofal Sylfaenol Integreiddiedig ym Methesda oedd un o'r prosiectau cyntaf a gyflwynodd Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd gynt i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn dilyn datblygu eu Strategaeth Ystadau ar gyfer Gofal Sylfaenol.
Mae'r ganolfan yn dwyn ynghyd mewn un adeilad bractis meddyg teulu gyda rhestr gleifion o 5,800 sy'n darparu rhychwant cynhwysfawr o Wasanaethau Meddygol Cyffredinol ynghyd â gwasanaethau cymunedol cysylltiol megis ymwelwyr iechyd, nyrsio ardal, bydwreigiaeth, podiatreg a fferyllfa. Mae'r ganolfan hefyd yn darparu llety ar gyfer gwasanaeth deintyddol cyffredinol GIG a gwasanaethau deintyddol cymunedol. Agorodd y ganolfan, a enwyd yn Ganolfan Feddygol Yr Hen Orsaf, ym mis Chwefror 2010.
Mae cynllun yr adeilad yn gyson â'r ardal leol gyda llawer o'r gwaith adeiladu wedi ei wneud gan weithwyr lleol. Daeth llawer o'r deunyddiau adeiladu o'r fro leol gyda llechi'r to yn dod o Chwarel y Penrhyn, Bethesda a blaen yr adeilad wedi ei wisgo mewn llechi o Flaenau Ffestiniog. Mae ffenestri uchder llawn i'r coridor sy'n edrych dros y buarth wrth gefn yr stafell aros ac mae yna ddigonedd o lefydd parcio.
Enw cyswllt: Heather Merrick
Swydd: Pennaeth Cynorthwyol Gofal Cynradd Cynllunio Gwynedd (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr)
Ffôn: 01286 674230
Ebost: Heather.Merrick@wales.nhs.uk
Cyfeiriad: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ysbyty Gwynedd
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2PW