Rhestr Astudiaethau achos

Asesu cynnydd disgyblion mewn perthynas â'u targedau unigol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

01/01/2008

Mae'r Cyngor wedi ychwanegu cofnod ychwanegol at y data CYBLD sy'n galluogi Cydlynwyr AAA i gofnodi eu dyfarniad ar y cynnydd a wneir gan bob disgybl.

Cofnodir y dyfarniad hwn ar raddfa o 1 i 5, a datblygir meini prawf ar gyfer pob gradd. Er bod rhywfaint o oddrychedd yn perthyn i'r asesiadau hyn, maent yn cynrychioli cam gwerthfawr ymlaen yn y broses o ddechrau cofnodi'r cynnydd a wneir gan ddisgyblion mewn perthynas â'r targedau a bennir yn eu Cynlluniau Addysg Unigol.

Mae'r data, sy'n gysylltiedig â gwybodaeth am anghenion disgyblion a natur y ddarpariaeth a gânt a data perfformiad y CC, yn galluogi staff yn yr ysgol a'r cyngor i ddadansoddi cynnydd grwpiau penodol o ddisgyblion ac edrych am feysydd lle mae'r ddarpariaeth yn arbennig o lwyddiannus neu'n gymharol aflwyddiannus ac angen cael ei hadolygu.

Enw cyswllt: Phill Bowker  
Swydd: Pennaeth Gwasanaethau 
Ffôn: 01495 350555 
Ebost: phill.bowker@blaenau-gwent.gov.uk 
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Swyddfeydd y Cyngor
Glyn Ebwy
NP23 6XB