Rhestr Astudiaethau achos

Undeb Rygbi Cymru - Hyfforddwyr Cymunedol a Phrosiectau Cynhwysiant Cymdeithasol Rugbywise Penderi

Undeb Rygbi Cymru

26/06/2007

Nod y cynllun hwn oedd cynyddu gweithgarwch corfforol, cyfranogiad cymunedol a hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol ar gyfer plant a phobl ifanc trwy gyfrwng rygbi yn ward Penderi o Abertawe, yr wythfed ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Roedd y rhaglen o weithgareddau yn seiliedig ar y diffyg amrywiaeth mewn chwaraeon yn y ward, a denwyd 4,500 o gyfranogwyr. Heblaw am bêl-droed a chrefftau ymladd, nid oedd cyfleoedd i blant a phobl ifanc lleol i gyfranogi mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol mewn sefyllfa glwb yn eu cymuned eu hunain. Roedd y cynllun Hyfforddwyr Cymunedol a Rugbywise yn cynnig 52 awr o weithgarwch newydd o fewn cyfleusterau cymuned leol bob wythnos mewn ystod o chwaraeon (athletau, badminton, pêl-fasged, erobeg ddawns, pêl-rwyd, rygbi, nofio a thenis). Roedd y cynllun hefyd yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ac oedolion i ddilyn amrywiaeth o gyrsiau achrededig mewn chwaraeon a disgyblaethau cysylltiedig, yn cynnwys y cyfle i gael achrediad gan Undeb Rygbi Cymru. Arweiniodd y cynllun at 560 o hyfforddeion a hyfforddwyr yn ennill cymwysterau.

Roedd cynhwysiant cymdeithasol a datblygu cymunedol yn rhan bwysig o'r cynllun, ffaith a amlygwyd gan gefnogaeth Heddlu De Cymru a Thîm Troseddwyr Ifanc Abertawe. Mae'r cynllun yn rhoi nifer o enghreifftiau lle mae plant a phobl ifanc gyda phroblemau cymdeithasol wedi cael budd o gyfranogi mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden. Mae data yn awgrymu bod y cynllun wedi cyfrannu at ostyngiad yn y lefel o gamymddwyn ymhlith pobl ifanc a gostyngiad mewn digwyddiadau yn ystod y cyfnod pan oedd y cynllun yn gweithredu.

Ffôn: 0870 013 8600 
Ebost: info@wru.co.uk 
Cyfeiriad: Undeb Rygbi Cymru Cyf
Llawr Cyntaf
Ty Golate
101 Heol Eglwys Fair
Caerdydd
CF10 1GE  
Gwefan: www.wru.co.uk