Rhestr Astudiaethau achos

System Reoli Perfformiad Adnoddau ac Ystadau GIG Cymru

Ystadau Iechyd Cymru

03/06/2010

Sefydlwyd System Reoli Perfformiad Adnoddau ac Ystadau GIG Cymru (EFPMS) yn 2002. Mae'r system yn annog dynesiad disgybledig tuag at gasglu, rhannu ac adolygu data, ac yn cefnogi gwneud penderfyniadau strategol ar lefel genedlaethol a lleol.

Mae'r EFPMS yn caniatáu cyrff GIG i fewnddodi a chyrchu gwybodaeth mewn amser real a chymharu eu perfformiad gyda chyrff eraill y GIG, nid yn unig yng Nghymru ond yn Lloegr hefyd. Mae Ystadau Iechyd Cymru yn darparu cefnogaeth a chyngor ar lenwi ffurflenni EFPMS ac â swyddogaeth hefyd wrth herio a dilysu'r wybodaeth a gyflwynir. Gan ddefnyddio'r data ar EFPMS, mae Ystadau Iechyd Cymru yn cynhyrchu adroddiadau blynyddol ar berfformiad ystadau ac adnoddau ystad y GIG yng Nghymru, gan gyflwyno gwybodaeth ar lefel sefydliadol a safle ysbytai unigol (http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=254&pid=41313). Mae'r wybodaeth hon wedi cynorthwyo gyda dyrannu adnoddau ar lefel leol a chenedlaethol.

Enw cyswllt: Neil Davies
Swydd: Cyfarwyddwr - Ystadau Iechyd Cymru
Ffôn: 029 20315500
Ebost: Neil.Davies4@wales.nhs.uk 
Cyfeiriad: Ystadau Iechyd Cymru
PO Box 182
Bevan House
24-30 Lambourne Crescent
Llanisien
Caerdydd
CF14 5GS  
Gwefan: http://www.wales.nhs.uk/sites3/home.cfm?OrgID=254