Rhestr Astudiaethau achos

Hyrwyddo ymweliadau addysgol i barc cenedlaethol fel rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

01/01/2008

Mae'r parciau cenedlaethol yn cynnig nifer o gyfleoedd i ysgolion helpu plant i ddysgu am gefn gwlad a'i fwynhau.

Daeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar draws rhywfaint o amharodrwydd ar y dechrau ymhlith staff ysgol i fynd â phartïon ysgol i'r maes. Y problemau oedd bod angen cyflwyno gweithgareddau'r parc yn nhermau pecynnau sy'n berthnasol yn uniongyrchol i'r cwricwlwm cenedlaethol, ac roedd rhaid penderfynu pwy fyddai'n gyfrifol am arwain grwpiau yn y maes.

Creodd y Parc nifer o becynnau addysg pwrpasol ar gyfer plant y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 1 (hyd at 7 oed) ac ar gyfer ysgolion uwchradd yn cynnwys teithiau cerdded ac anerchiadau am y parc cenedlaethol a materion allweddol sy'n berthnasol iddo. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r pecynnau'n gysylltiedig â Chyfnod Allweddol 2 (7 i 11 oed) o'r cwricwlwm cenedlaethol, yn cynnwys ymweliadau addysgol â'r parc. Mae'r pecynnau'n cynnwys gwyddoniaeth, celf, daearyddiaeth ac addysg bersonol a chymdeithasol, sy'n cynnwys diogelwch, ymddygiad a chyfrifoldeb.

Datryswyd yr ail broblem gan y Parc drwy ddarparu arweinwyr gweithgareddau sy'n gweithio gyda staff yr ysgol a'r plant. Yn 2006/07, arweiniodd staff Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog weithgareddau addysgol dibreswyl ar gyfer 4039 o fyfyrwyr ysgol a choleg ac ar gyfer 2003 diwrnod o gyrsiau preswyl.

Trwyddedir y Parc gan yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Anturus sy'n tawelu meddwl athrawon. Mae'r Parc hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth â grwpiau eraill i helpu ysgolion i ariannu trafnidiaeth ac athrawon cyflenwi mewn ysgolion ar gyfer athrawon sy'n ymwneud â gweithgareddau yn y Parc

Mae'r ffactorau allweddol ar gyfer llwyddiant y rhaglen yn cynnwys y cysylltiad â'r gwasanaeth Addysg, ymgysylltu â chwsmeriaid i fireinio'r cynnyrch a'r sylw i'r gwasanaethau i gwsmeriaid.

Enw cyswllt: Sunita Welch
Swydd: Rheolwr Addysg 
Ffôn: 01874-620462 
Ebost: sunita.welch@breconbeacons.org
Cyfeiriad: Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plas y Ffynnon
Cambrian Way
Aberhonddu
Powys
LD3 7HP