Cymdeithas Tai Cadwyn Cyf
01/01/2008
Wrth ymdrin â chyfle cyfartal, penderfynodd y Gymdeithas ganolbwyntio ar sut roedd yn darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd. Cynhaliodd y Gymdeithas Asesiad Sylfaenol manwl yn 2003 o effaith ei dull o ddarparu gwasanaethau a staffio ar y gymuned du a lleiafrifoedd ethnig (BME).
O'r ymarfer hwn, nododd y Gymdeithas amrywiaeth o feysydd oedd yn gofyn am gamau gweithredu wedi'u targedu i gynyddu cynrychiolaeth BME, yn cynnwys nifer y staff o gefndir BME, nifer y tenantiaid BME a gartrefir o fewn ardaloedd penodol a nifer y tenantiaid BME sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch cynnwys tenantiaid. Cynhaliodd y Gymdeithas waith dilynol yn 2006 gydag asesiad pellach i bennu effaith y camau gweithredu a gymerwyd ganddi. Nododd yr Asesiad Dilynol hwn fod camau gweithredu penodol y Gymdeithas wedi arwain at welliannau sylweddol ym mhob maes. Wrth fabwysiadu'r dull hwn, roedd y Gymdeithas yn gallu sicrhau ei bod yn canolbwyntio ei gweithgarwch lle'r oedd angen camau gweithredu i hyrwyddo cyfle cyfartal ac i werthuso effaith ei gweithredoedd.
Enw cyswllt: Chris O'Meara
Swydd: Prif Weithredwr
Ffôn: 029 2049 8898
Ebost: info@cadwyn.co.uk
Cyfeiriad: Cymdeithas Tai Cadwyn Cyf
197 Newport Road
Caerdydd
CF24 1AJ