Rhestr Astudiaethau achos

Mynd i'r afael ag anghenion pobl ddigartref

Cymdeithas Tai Cadwyn Cyf, Llywodraeth y Cynulliad, Awdurdod Lleol

01/01/2008

Roedd y Gymdeithas yn gweithio mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol a Llywodraeth y Cynulliad i fynd i'r afael ag anghenion pobl ddigartref yng Nghaerdydd.

Roedd CalonAdref yn prydlesu cartrefi gan berchnogion y sector preifat i'w cynnig i deuluoedd digartref. Ceisiwyd tai dwy a thair ystafell wely o dan y cynllun a oedd yn cynnig incwm rhenti i berchnogion yn ystod y cyfnod prydlesu o dair blynedd, ynghyd â gwasanaethau rheoli a chynnal a chadw mewnol. Roedd yn ofynnol i dai fodloni safonau penodol, ac roedd angen i berchnogion sicrhau bod eu benthycwr a'u darparwr yswiriant adeiladu yn fodlon ar y cynigion. 

Rhoddodd CalonLettings Wasanaeth Rheoli Llawn i landlordiaid preifat yn gyfnewid am sicrhau bod eiddo ar gael i'w osod i deulu digartref. Roedd yn ofynnol i dai fodloni safonau penodol er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynllun. 

Ar adeg yr arolygiad, darparwyd 42 o dai i deuluoedd digartref drwy CalonAdref.

Enw cyswllt: Chris O'Meara
Swydd: Prif Weithredwr
Ffôn: 029 2049 8898
Ebost: info@cadwyn.co.uk
Cyfeiriad: Cymdeithas Tai Cadwyn Cyf
197 Newport Road
Caerdydd
CF24 1AJ