Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
01/01/2008
Ers nifer o flynyddoedd mae swyddogion yng Nghaerffili wedi gweithio'n agos iawn â Chorff Llywodraethu, Uwch Dîm Rheoli a staff Ysgol a Chanolfan Adnoddau Trinity Fields i gynnal adolygiad sylfaenol o'r sail a ddefnyddir i bennu cyllideb yr ysgol.
O ganlyniad, mae'r Cyngor wedi diwygio model ariannu'r ysgol yn sylweddol. Mae'r fformiwla newydd yn seiliedig ar wybodaeth glir a chywir am anghenion pob disgybl ac anghenion yr ysgol gyfan. Mae'r Cyngor a'r ysgol o'r farn bod y fformiwla newydd llawer yn decach, yn fwy tryloyw ac yn fwy priodol i anghenion disgyblion na'r trefniadau blaenorol.
Mae'r gyllideb ar gyfer Ysgol Trinity Fields yn cynnwys elfennau ar gyfer:
Mae'r Cyngor yn dyrannu'r elfen o'r gyllideb a arweinir gan leoedd yn unol â system pum band a gynlluniwyd i ddarparu lefel raddoledig o arian ychwanegol yn unol ag anghenion pob disgybl. Pennir nifer y disgyblion ym mhob band yn flynyddol drwy gyfeirio at fatrics asesu disgyblion arbennig, a ategir gan asesiad o anghenion ymddygiadol ac asesiad risg ar gyfer ymdrin â disgyblion. Caiff y matrics hwn ei ddiweddaru drwy'r prosesau asesu arferol yn yr ysgol, a'r system adolygu flynyddol. Mae gan yr ysgol ddisgresiwn o ran y ffordd y mae'n defnyddio arian i ddiwallu anghenion unigol disgyblion, yn cynnwys anghenion o ran cymorth personol, cyfarpar arbenigol neu gostau gweinyddol ychwanegol.
Enw cyswllt: Jacky Elias
Ebost: ELIASJ@caerphilly.gov.uk
Cyfeiriad: Penallta House
Tredomen Park
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7PG