Cyngor Gwynedd
01/01/2008
Gan geisio lleihau lefelau cymharol uchel o dlodi tanwydd, gwnaeth Cyngor Gwynedd gytundeb â Nwy Prydain yn 2004 i redeg Cynllun 'Yma i Helpu' yn y sector preifat.
Amcangyfrifodd Arolwg y Cyngor o Gyflwr y Stoc yn 2003 fod 38.6 y cant o gartrefi yn debygol o ddioddef o dlodi tanwydd (o gymharu â chyfartaledd Cymru, sef 31 y cant o gartrefi).
I gychwyn, canolbwyntiodd 'Yma i Helpu' ar gartrefi preifat yn ardal ddynodedig Dyffryn Nantlle. Yn hynny o beth, hwn oedd y cynllun cyntaf yn y DU i dargedu cartrefi preifat mewn perygl o dlodi tanwydd. Rhoddodd y cynllun fesurau effeithlonrwydd ynni am ddim i berchnogion tai ac archwiliadau iechyd budd-daliadau. Cysylltodd yr aseswyr â 63 y cant o gartrefi yn yr ardal ddynodedig, gosodwyd 450 o fesurau arbed ynni mewn 347 o adeiladau, ac roedd dros hanner y rhai a gytunodd i Archwiliad Iechyd Budd-daliadau yn gymwys am fudd-daliadau ychwanegol (y cyfartaledd ar draws y grwp hwn oedd £21.04 yr wythnos).
Yng ngoleuni'r llwyddiannau hyn penderfynodd y Cyngor ymestyn y cynllun i'r sector tai preifat cyfan. Golygodd cyfyngiadau ariannol na allai'r Cyngor weithredu'r cynllun ar draws Gwynedd gyfan ar yr un pryd. Er mwyn cyflawni'r effaith fwyaf ar dlodi tanwydd, i gychwyn cwmpasodd y cynllun y tair ward a nodwyd fel y rhai sydd â'r lefelau amddifadedd uchaf. Gwnaed hyn drwy ddarn o ymchwil a gomisiynwyd a oedd yn cynnwys data o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru a ffynonellau lleol eraill.
Erbyn diwedd mis Ionawr 2007:
Mae partneriaeth leol wedi'i datblygu hefyd gyda'r Gwasanaeth Pensiwn a'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth i symleiddio'r Broses Archwiliad Iechyd Budd-daliadau. Yn fwy diweddar, mae'r Cyngor wedi manteisio ymhellach ar arian sydd ar gael o dan yr EES i ddatblygu Cynllun Yma i Helpu yn y sector cyhoeddus.
Enw cyswllt: Adrian Roberts
Swydd: Swyddog Strategaeth Tai a Gwerth Gorau
Ffôn: 01286 679304
Ebost: adrian.roberts@gwynedd.gov.uk
Cyfeiriad: Cyngor Gwynedd
Swyddfa'r Cyngor
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH