Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro
01/01/2008
Ym mis Hydref 2008 datblygodd Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro dîm amlddisgyblaethol o'r enw CELT a arweinir gan Geriatregydd i weithio yn ardal Dwyrain Caerdydd.
Ystyrir bod y model yn enghraifft o ofal integredig arloesol sy'n anelu at leihau nifer y derbyniadau brys i Ysbyty Athrofaol Cymru y gellid eu hosgoi (o'r gymuned a lleoliadau gofal cartref preswyl/gofal cartref Nyrsio) a hwyluso'r broses o ryddhau cleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty o'r ardal leol yn gynt.
Tîm amlddisgyblaethol a arweinir gan Geriatregydd yw CELT sy'n gweithio gydag Ymarferwyr Cyffredinol yn ardal Dwyrain Caerdydd i reoli cleifion sy'n methu yn y gymuned. Nod y gwasanaeth yw adeiladu ar yr egwyddorion sy'n tanategu Gwasanaeth Asesu Gofal yr Henoed, drwy roi ymateb cyflym ar ffurf asesiad geriatreg cynhwysfawr i gleifion nad ydynt yn defnyddio'r gwasanaeth yn Ysbyty Rookwood (e.e. cleifion mewn cartrefi nyrsio neu gartrefi preswyl a chleifion sydd ag anghenion iechyd meddyliol a chorfforol). Ar ôl iddo gael ei sefydlu, gobeithir y bydd y gwasanaeth yn gallu derbyn cleifion o'r boblogaeth ehangach o oedolion (h.y. unigolion 18 i 65 mlwydd oed) ac yn gallu cefnogi'r broses o ryddhau cleifion sy'n dod o'r ardal leol a dderbyniwyd i Ysbyty Athrofaol Cymru am gyfnod o ofal acíwt, yn amserol.
Mae'r Ardal ddiffiniedig yn cwmpasu Cathays, Plasnewydd, Adamsdown, Pen-y-lan, Trowbridge, Tredelerch, Llanrhymni a'r Sblot (datblygiad graddol sy'n cwmpasu poblogaeth o dua 85,000 gan gynnwys y ddau gartref nyrsio sy'n atgyfeirio'r nifer fwyaf o gleifion yng Nghaerdydd).
Enw: Maureen Fallon
Swydd: Rheolydd Cyffredin Meddygaeth
Ffôn: 029 2074 7747
Cyferiad: Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW