Cymdeithas Tai Cymru a'r Gorllewin
01/06/2009
Mae Cymdeithas Tai Cymru a'r Gorllewin (y Gymdeithas) yn darparu a rheoli llety ledled Cymru ar gyfer 25,000 o bobl mewn dros 9,000 o dai.
Cefnogir y gwaith gan rwydwaith o swyddfeydd. Fodd bynnag, trwy ymgynghori, dangoswyd mai ond y cwsmweriaid hynny oedd yn byw yn agos i'r swyddfeydd oedd yn eu defnyddio. Roedd y gweddill yn fwy tebygol o ddefnyddio'r ffôn, neu'n gofyn am ymweliad ar y safle. Trwy ymgynghori, dangoswyd hefyd fod yn well gan y trigolion weld mwy o staff lleol allan ar yr ystad ac yn y gymuned.
Ym 2003, fe wnaeth y Gymdeithas gau y pedwar swyddfa rhanbarthol, gan eithrio'r brif swyddfa yng Nghaerdydd a swyddfa Fflint. Cafodd staff eu hail-leoli mewn ardaloedd yn agosach at eu cwsmeriaid. Llwyddodd y Gymdeithas gael gwared ar dri o'r swyddfeydd ac isosod y pedwerydd.
O ganlyniad i fwy o ffocws ar gyd-cysylltu canolog, cafwyd wared ar ran helaeth o waith gweinyddol a gwaith papur y staff flaeanaf, gyda thechnoleg megis e-byst di-wifr, ffonau symudol a gliniaduron yn galluogi'r staff i weithio allan o'r swyddfa. Mae'r staff flaenaf nawr yn gwario dros 80 y cant o'u hamser yn gweithio wyneb yn wyneb â thrigolion. Maent yn gweithio o safleoedd llai ledled Cymru, gyda'r rhan fwyaf o'r rheini yn bodoli o fewn cynlluniau cymdeithasau sefydliedig neu yn rhannu gyda sefydliadau chymunedol eraill. Mae'r seilwaith wedi ei ehangu o ganlyniad i bwyntiau mynediad band eang y gellir ei gweithredu. I gychwyn, dim ond rhyngrwyd deialu oedd ar gael, ond maent yn defnyddio rhyngrwyd fyd-eang erbyn hyn, o ganlyniad i'w argaeledd gynyddol. Mae'r Gymdeithas yn rhagweld y bydd rhyngrwyd fyd-eang ar gael ymhobman erbyn diwedd 2008.
Mae hyfforddiant swydd a chymorth i reolwyr gweithwyr maes yn cael ei ddarparu gan y Pennaeth Tai, a oedd yn swyddog arweiniol ar waith maes. Yn ogystal, mae cyfarfodydd gwaith maes yn cael eu cynnal yn gyson. Mae'r cyfarfodydd yma yn dod â holl adrannau'r Gymdeithas at ei gilydd i ddatrys unrhyw faterion neu newid unrhyw broses yn y fan a'r lle. Mae hyfforddiant ychwanegol i'r rheini sydd yn rheoli gweithwyr maes yn cael ei ddynodi fel rhan o driniaeth gwmpasog y Gymdeithas i ddynodi anghenion hyfforddi.
Cafodd y Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd ei sefydlu ym 1999, er mwyn darparu gwasanaeth 24 awr, saith diwrnod yr wythnos ar gyfer cofnodi'r angen am drwsio, cymwysiadau tai, cofnodi agwedd gwrthgymdeithasol, ymateb i larwm argyfwng a thaliadau rhent cerdyn debit. Mae'r adborth wrth denantiaid wedi bod yn bositif. Mae'r Gymdeithas yn parhau i ddatblygu'r Ganolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid fel man i denantiaid geisio datrys unrhyw broblemau yn uniongyrchol. (Gweler Adroddiad Arolygu Cymru a'r Gorllewin, Swyddfa Archwilio Gorffennaf 2007).
Amcangyfra'r Gymdeithas y bydd newid eu ffordd o weithio yn arbed £480,000 yn flynyddol. Mae hyn yn cynrychioli ychydig yn llai na dau y cant o gyfanswm ei incwm.
Mae costau staff wedi gostwng tua £400,000. Mae costau swyddfa wedi gostwng tua £250,000. Ond mae'r arbedion yma yn rhannol yn erbyn costau ychwanegol IS o tua £170,000.
Enw cyswllt: Anne Hinchey
Swydd: Prif Weithredwr
Ffôn: 0800 052 2526
Ebost: anne.hinchey@wwha.co.uk
Cyfeiriad: 3 Alexandra Gate
Ffordd Pengam
Tremorfa
Caerdydd
CF24 2UD
Gwefan: http://www.wwha.net