Rhestr Astudiaethau achos

Cynlluniau gofal canolraddol

Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin

01/01/2008

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, yr Ymddiriedolaeth a Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin wedi sefydlu partneriaeth o'r enw 'Canllaw' - Gwasanaeth Gofal Canolraddol Cymunedol, i ddarparu gwasanaeth gofal canolraddol ym mhob rhan o'r sir.

Sefydlwyd y gwasanaeth yn 2002 gan ddefnyddio arian 'Wanless', ac mae'n darparu gwasanaeth adsefydlu dwys am hyd at chwe wythnos drwy dimau amlddisgyblaethol sydd wedi'u sefydlu mewn chwe lleoliad yn y sir.

Ar ddiwedd y cyfnod o chwe wythnos, mae'r tîm naill ai'n rhyddhau'r defnyddiwr gwasanaeth os nad oes unrhyw anghenion gofal pellach neu'n trosglwyddo gofal yr unigolyn i wasanaethau sy'n bodoli eisoes, fel gofal cartref. Dri mis ar ôl diwedd y cyfnod adsefydlu, mae'r tîm yn adolygu cynnydd yr unigolyn ac yna'n cynnal adolygiad terfynol cyn i'r unigolyn gael ei ryddhau'n derfynol chwe mis ar ôl y cyfnod adsefydlu.

Roedd gan y cynllun gyllideb o £1.5 miliwn yn 2005/2006 a sicrhaodd fod 134 o bobl yn osgoi cael eu derbyn i'r ysbyty. Cafodd y cynllun effeithiau ehangach gan gynnwys cynorthwyo i ryddhau 104 o bobl o'r ysbyty yn gynharach, a lleihau'r galw am wasanaethau gofal cartref a arweiniodd at arbedion amcangyfrifedig o £1.4 miliwn i'r cyngor yn 2005/2006.

Wrth i'r gwasanaeth esblygu ac wrth i'w lwyddiant ddod i'r amlwg, cafwyd mwy o alw amdano gan feddygon teulu ac mae rhestrau aros wedi datblygu. Roedd hyn bob amser yn risg ac efallai bod y gwasanaeth yn dioddef yn sgîl ei lwyddiant ei hun. Mae'n bosibl bod camgyfatebiaeth rhwng gallu ac adnoddau'r gwasanaeth a'r galw amdano, ond ymddengys bod lefel ddibyniaeth yr unigolion a atgyfeirir at y gwasanaeth yn fater allweddol.

Ffynhonnell: Canllaw: Progress and Evaluation Report 2006, Huw Dylan Owen. Diweddarwyd ymhellach gan SAC yn 2008.

Enw: Linda Williams
Swydd: Rheolydd Cyffredin