Rhestr Astudiaethau achos

Cydberthynas â Phreswylwyr

Cynon-Taf Community Housing Group

01/01/2008

Annog preswylwyr i gymryd rhan

Rhoddodd y gymdeithas ystod o gyfleoedd i breswylwyr gymryd rhan a sicrhaodd fod tenantiaid newydd yn cael gwybod am yr opsiynau a oedd ar gael iddynt. Roedd y trefniadau yn galluogi tenantiaid i ddewis opsiwn ar gyfer cymryd rhan a oedd yn addas ar eu cyfer ac roedd y Gymdeithas wedi teilwra ei dull o weithredu i gynnwys adborth gan denantiaid - er enghraifft, yn lle proses lle'r oedd "cwsmeriaid cudd" yn cwblhau ffurflenni adborth, trefnu ymweliad personol i gael adborth.

Grymuswyd tenantiaid i ddylanwadu ar agenda'r Gymdeithas ar lefel Fforwm ac roedd adolygiad rhagweithiol o'r holl adborth a gafwyd, yn cynnwys cwynion ffurfiol, yn arwain at wella gwasanaethau.

Enw cyswllt: David Lewis
Swydd: Prif Weithredwr
Ffôn: 01443 743200
Cyfeiriad: Grwp Cartrefu Cymunedol Cynon-Tâf
Uned 4
Parc Mordwyaeth
Abercynon
Aberpennar
CF45 4SN   
Gwefan: www.cynon-taf.org.uk