Rhestr Astudiaethau achos

Mae sefydlu'r Uwch Dîm Asesu Clinigol wedi helpu i leihau nifer y bobl a dderbynnir i'r ysbyty ac achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn Nhorfaen

Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Gwent

01/01/2008

Fel rhan o Strategaeth Gofal Canolraddol Torfaen, mae Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent wedi cyflogi Meddyg Ymgynghorol ar gyfer Gofal Canolraddol yn Nhorfaen.

Mae'r Meddyg Ymgynghorol wedi sefydlu Uwch Dîm Asesu Clinigol (ACAT), ac ef sy'n arwain y tîm. Sefydlwyd yr Uwch Dîm Asesu Clinigol ym mis Tachwedd 2006 ac mae'n cynnwys pump Uwch Aseswr sy'n Nyrsys Clinigol sy'n ymateb yn gyflym i atgyfeiriadau er mwyn atal achosion o dderbyn cleifion o'r gymuned a chartrefi gofal.

Gwneir atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu, a phan gaiff unigolyn ei atgyfeirio, bydd nyrs yn ymweld â'r claf i gymryd hanes llawn a chynnal archwiliad manwl. Cynhelir profion diagnostig, yn cynnwys prawf gwaed ac ocsigen ac electrocardiogram yn syth yng nghartref y claf. Rhaid aros rhai oriau cyn cael y canlyniadau ac mae'r nyrs yn defnyddio'r amser hwn i gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol neu'r tîm ail-alluogi os oes angen. Os bydd angen pelydr X, mae gan y tîm drefniant gyda'r adran radioleg yn Ysbyty'r Sir, Casnewydd, lle y rhoddir blaenoriaeth i gleifion yr Uwch Dîm Asesu Clinigol. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu rhwng 8.00am ac 8.00pm yn ystod yr wythnos.

Darperir llywodraethu clinigol drwy'r Meddyg Ymgynghorol a Chofrestrydd Gofal Canolraddol arbenigol. Anogir nyrsys yr Uwch Dîm Asesu Clinigol i ofyn am eu cyngor os oes ganddynt unrhyw amheuaeth ynglyn â chlaf a gall y meddygon ymweld â chleifion yn y gymuned neu eu gweld mewn clinigau priodol a gynhelir yn rheolaidd.

Bu'r meddyg ymgynghorol hefyd yn ymwneud â'r gwaith o hysbysu meddygon teulu yn Nhorfaen am y dewisiadau amgen i dderbyn cleifion i'r ysbyty yn ogystal â chwarae rhan ym Mwrdd Llywio Gofal Canolraddol yr ardal. Mae'r Bwrdd, y mae ei aelodau'n cynnwys uwch swyddogion o'r Bwrdd Iechyd Lleol, yr Ymddiriedolaeth GIG, Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol a rhwydwaith y sector gwirfoddol, wedi sicrhau bod yr Uwch Dîm Asesu Clinigol yn cyd-fynd ag amrywiaeth o wasanaethau yn y gymuned ac yn yr ysbyty ac y caiff ei ategu ganddynt.

Mae gwasanaeth yr Uwch Dîm Asesu Clinigol wedi helpu i leihau nifer y bobl a dderbynnir i'r ysbyty.

Er na chafwyd gwerthusiad llawn o effaith y gwasanaeth, nodwyd bod yr Uwch Dîm Asesu Clinigol wedi llwyddo i gynorthwyo 975 o'r 1208 o gleifion a atgyfeiriwyd rhwng mis Ionawr 2007 ac Ebrill 2008. Mae dros 85% o'r cleifion a welir dros 75 oed. Yn ystod y cyfnod y mae'r gwasanaeth wedi datblygu, mae nifer y cleifion sy'n wynebu oedi wrth drosglwyddo gofal wedi lleihau (ac eithrio cyfnod byr pan oedd nifer sylweddol o gleifion yn aros am asesiad ar gyfer gofal iechyd parhaus).

Canfu arolwg o gleifion yn dilyn cyfnod peilot y gwasanaeth foddhad uchel ymhlith cleifion. Rhoddwyd cyfle i Feddygon Teulu adolygu'r gwasanaeth ac roeddent yn gadarnhaol iawn. Roeddent yn arbennig o hoff o'r amserau ymateb cyflym, y prosesau cyfathrebu effeithiol a'r boddhad uchel ymhlith cleifion. Ymhlith pryderon y meddygon teulu am y gwasanaeth roedd diffyg gwasanaeth ar y penwythnos a'r tu allan i oriau, a'r llwythau gwaith cynyddol ar gyfer meddygon teulu o gymharu â chleifion a dderbynnir i'r ysbyty.

Pwyntiau dysgu allweddol: 

Enw: Yr Athro B. Bhowmick
Swydd: Meddyg Ymgynghorol dros Ofal Canolraddol 
Ffôn: 01495 332200 
Ebost: Bim.Bhowmick@gwent.wales.nhs.uk
Cyfeiriad: Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent
Ty Grange
Llanfrechfa Grange
Cwmbrân
Torfaen
NP44 8YN