Rhestr Astudiaethau achos

Vehicle Leasing

Pembrokeshire Coast National Park Authority

01/01/2008

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gweithredu fflyd o tua 40 o gerbydau.

Mae milltiredd blynyddol cyfartalog ar gyfer pob cerbyd yn y fflyd yn amrywio o 12,000 i 15,000 milltir, serch hynny, gyda chyn lleied o nifer o gerbydau, mae milltiredd cerbydau unigol yn gallu amrywio'n fawr o ganlyniad i ddefnydd anrhagweladwy.

Mae'r defnydd anrhagweladwy o gerbydau unigol yn y gorffennol wedi arwain at rai cerbydau wedi eu prydlesu yn cael eu dychwelyd i'r cwmni prydlesu wedi gwneud mwy na'r uchafswm o filltiredd a gytunwyd

Pan wnaeth yr Awdurdod ddychwelyd un cerbyd i'r cwmni prydlesu gyda milltiredd yn uwch na'r hyn a gytunwyd ac eraill yn is na'r milltiredd a gytunwyd, fe wnaeth y cwmni prydlesu gynnig cytundeb ailfuddsoddi dirwyon i'r Awdurdod.

Roedd y cytundeb hwn yn golygu pan fo cerbydau yn cael eu dychwelyd gyda milltiredd yn uwch na gytunwyd a cherbydau eraill yn is na'r hyn a gytunwyd, byddai'n ofynnol i'r Awdurdod dalu taliadau gormodedd milltiredd ar y filltiredd net yn unig.

Mae'r cytundeb hwn yn golygu arbediad i'r Awdurdod gan nad yw'n ofynnol iddynt dalu taliadau gormodedd milltiredd. Ond yn bwysicach byth, mae'r cytundeb wedi caniatau'r Awdurdod i fod yn fwy realistig wrth amcangyfrif ei filltiredd. Mae'r rhwyd arbed o wybod bod modd ailfuddsoddi dirwyon gormodedd milltiredd yn golygu bod yr Awdurdod wedi medru darparu lefelau milltiredd amcangyfrif is. Mae hyn yn arwain at arbedion gan fod cytundebau milltiredd is yn rhatach. Mae'r Awdurdod yn amgangyfrif arbediad o tua £100 ar gyfer pob cerbyd yn flynyddol.

Enw cyswllt: Alan Hare 
Swydd: Rheolwr Adnoddau 
Ffôn: 01646 624810
Ebost: alanh@pembrokeshirecoast.org.uk
Cyfeiriad: Parc Llanion
Doc Penfro
Sir Benfro
SA72 6DY 
Gwefan: www.pcnpa.org.uk