Cyngor Bro Morgannwg
01/10/2008
Ym Mro Morgannwg, yr awdurdod lleol sy'n cynnal Hawliau Tramwy, ond sefydliad gwirfoddol o'r enw Valeways sy'n cyflawni gwaith i wella'r rhwydwaith.
Yn ogystal â rhywfaint o arian gan Gyngor Bro Morgannwg, gall Valeways wneud cais am arian nad yw ar gael i'r awdurdod lleol ac mae'n defnyddio cronfa o tua 50 o wirfoddolwyr ar unrhyw adeg benodol. Gall felly gynnig gwerth da am arian.
Mae Valeways yn gynrychioliadol o'i gymuned ac mae ganddo bolisi cynhwysol o ran recriwtio a defnyddio gwirfoddolwyr. Mae Swyddog Cynhwysiant yn sicrhau y darperir cymorth priodol i bobl o bob cefndir ac o bob gallu i'w galluogi i chwarae rhan yng ngwaith Valeways yn cynnwys nifer o bobl gyda phroblemau iechyd meddwl, anawsterau dysgu, namau corfforol ac ati.
Mae'r sefydliad yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r awdurdod mynediad lleol, Cyngor Bro Morgannwg, wrth gynllunio ei raglen o waith i wella ac ailagor llwybrau troed. Mae Valeways hefyd yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas y Cerddwyr a thirfeddianwyr, sef grwpiau y mae eu cydweithrediad yn hanfodol i lwyddiant y prosiectau unigol.
Nod Valeways yw gwella darn 15 km o'r rhwydwaith hawliau tramwy ym Mro Morgannwg bob blwyddyn, yn cynnwys gosod ac ailosod dodrefn y llwybrau. Menter Valeways oedd Llwybr Treftadaeth y Mileniwm. Mae'n llwybr cylchol 70 milltir o hyd gyda nifer o gysylltiadau â Hawliau Tramwy eraill.
Mae Valeways wedi llunio tua 60 o deithiau cerdded cylchol ar 15 rhan o lwybrau troed. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar gynllun ar gyfer llwybr sy'n addas ar gyfer pobl anabl, a hefyd yn arwain teithiau cerdded ac yn cynhyrchu deunydd cyhoeddusrwydd.
Mae gwersi allweddol yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â'r Cyngor, Cymdeithas y Cerddwyr a thirfeddianwyr; cael bwrdd rheoli ac ymddiriedolwyr rhagweithiol a medrus; datblygu cronfa gadarn o wirfoddolwyr; a darparu cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl neu anableddau dysgu.
Enw cyswllt: Ian Harvey
Swydd: Swyddog Cynhwysiant
Rhif ffôn: 01446 749000
Ebost: iharvey@valeways.org.uk
Cyfeiriad: Cyngor Bro Morgannwg
Swyddfeydd Dinesig
Holton Road
Y Barri
CF63 4RU
Gwefan: www.valeways.org.uk