Cyngor Sir Caerfyrddin
01/01/2008
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithredu fflyd o bron i 650 o gerbydau ac yn 2006-07 roedd cost net gweithredu'r fflyd bron yn £7 miliwn.
Yn dilyn adolygiad o Bolisi Diogelwch Risg Ffyrdd y Cyngor, rhoddwyd nifer o fesurau ar waith i wella sgiliau, hyfforddiant a diogelwch gyrwyr.
Un o'r mesurau hyn oedd cofrestru â 'Chynllun Gyrru'n Dda' y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau. Fel rhan o'r cynllun, gosodwyd sticeri ar gefn cerbydau'r Cyngor, gan wahodd y cyhoedd i roi gwybod iddo os oedd y cerbyd yn cael ei yrru'n wael.
Talodd y Cyngor tua £6,000 y flwyddyn i fod yn rhan o'r cynllun ac roedd yn cael llai na 20 o alwadau y flwyddyn.
Teimlai'r Cyngor y gallai sicrhau gwerth gwell am arian drwy weithredu'r cynllun yn fewnol.
Yn ystod Haf 2008 cafodd y cynllun ei sefydlu'n fewnol a bellach fe'i gweithredir fel gwasanaeth ychwanegol a ddarperir gan ganolfan alwadau'r Cyngor.
Bellach mae'r Cyngor yn cymryd y galwadau'n uniongyrchol, ac mae ganddo wybodaeth well am bob achos a gall ymchwilio a gweithredu'n well yn ôl yr angen.
Bydd gweithredu'r cynllun yn fewnol yn arbed tua £3,500 y flwyddyn i'r Cyngor.
Enw: Steve Pilliner
Swydd: Rheolwr Trafnidiaeth
Ffôn: 01267 224375
Ebost: SGPilliner@carmarthenshire.gov.uk