Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili
01/01/2008
Er mwyn cadarnhau'r hyn a gyflawnwyd gan bractisau, ac felly'r hyn y gellid ei wobrwyo, ymwelodd y Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) (ac ailymwelwyd mewn saith achos - i sicrhau bod newidiadau a awgrymwyd wedi'u gweithredu) â phob un o'i 31 o bractisau.
Cynhaliwyd ymweliadau gan dîm o dri neu bedwar, a ddewiswyd fel arfer o grwp o gyflogeion BILl, cynrychiolwyr Cyngor Iechyd Cymuned, a chlinigwyr meddygon teulu. Roedd uwch nyrs hefyd yn bresennol ym mwyafrif yr ymweliadau â phractisau.
Roedd y timau ymweld yn cydnabod mai syniad sylfaenol y system sgorio Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau oedd annog practisau gofal sylfaenol i wella eu gwasanaethau i gleifion. Roedd y BILl wedi anfon llythyr cyn yr ymweliadau yn dweud wrth y practisau mai: 'Un o nodau allweddol yr asesiad yw galluogi practisau i nodi eu hanghenion cymorth ar gyfer y dyfodol. Mae'r Tîm Adnoddau Gofal Sylfaenol yn awyddus i weithio gyda phractisau sy'n eu cefnogi mewn meysydd a nodwyd yn y broses ddilysu [Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau]. Gall y Tîm Adnoddau Gofal Sylfaenol hwyluso practisau o ran cyflawni eu dyheadau Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau drwy: gynhyrchu Cynllun Datblygu Practis cydlynol; cyflawni'r broses o reoli clefydau cronig yn effeithiol yn cynnwys sefydlu clinigau a chofrestrau clefydau; rheoli meddyginiaethau yn effeithiol; archwiliad clinigol; a hwyluso safonau sefydliadol yn cynnwys rheoli cofnodion, addysg a hyfforddiant ac adolygiadau gweithdai'. Cynhaliwyd y saith ailymweliad ym mis Chwefror a mis Mawrth 2005. Cynhaliwyd yr ail ymweliadau hyn yn bennaf er mwyn gwirio ansawdd data clinigol. Roedd hyn yn cynnwys y BILl yn ceisio caniatâd gan gleifion a oedd yn defnyddio'r saith practis i wirio sampl o ffeiliau a chofnodion cleifion.
Er ei bod yn debygol bod y newid sylweddol mewn sgoriau yn ystod y flwyddyn yng Nghaerffili yn adlewyrchu rhai dyheadau a oedd yn gymedrol yn wreiddiol mewn sawl practis, ceir tystiolaeth hefyd bod y cynnydd cyfartalog yn y sgôr canolrif o werth uchelgeisiol o 785/1050 i alldro y cytunwyd arno o 966/1050 yn adlewyrchu gwelliannau gwirioneddol yn ystod y flwyddyn. Yn eu tro deilliodd y rhain, yn rhannol, o fabwysiadu cyngor a ddarparwyd yn ystod ymweliadau timau ac yn eu hadroddiadau.
Enw: Chrissie Hayes
Swydd: Prif Weithredwr Cyfamser
Ffôn: 01495 241200
Ebost: chrissie.hayes@caerphillylhb.wales.nhs.uk
Cyfeiriad: Bwrdd Iechyd ddysgu Lleol Caerffili
Llanarth House
Uned 1
Newbridge Gateway
Bridge Street
Newbridge
NP11 5GH