Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Caerffili
01/01/2008
Cyflwynodd BILl Addysgu Caerffili ei Dîm Darparwyr yn Hydref 2005 i gefnogi a gweithio gyda phractisau cyffredinol i greu systemau cadarn ar gyfer rheolaeth clefydau cronig.
Defnyddiodd y tîm, sydd wedi ei ariannu gan Wanless, wybodaeth ar faint rhestr, graddfeydd atgyfeirio, Fframwaith cyflawniad Ansawdd a Chanlyniad a dangosyddion eraill i greu rhestr o'r arferion a oedd eu hangen fwyaf i gefnogi. Mae'r tîm o Feddygon Teulu, Fferyllwyr, nyrsys practis, cynorthwywyr gofal iechyd a gweinyddwyr yn gweithio gyda phractisau i adolygu, datblygu a gweithredu prosesau addas ar gyfer rheoli cleifion gyda chyflyrau cronig a hir dymor, megis problemau anadlu a chlefyd coronaidd y galon. Mae hyn yn cynnwys sefydlu cofrestrai practis cadarn i gleifion. Mae'r tîm, ynghyd â'r practis, yn cytuno ac yn gweithredu prosesau clinigol cadarn a rheolaethol a gall barhau i gael eu defnyddio gan y practis wedi i gymorth y Tîm Darparwyr ddod i ben. Mae wyth practis wedi cael eu cefnogi hyd yn hyn ac mae'r BILl Addysgu yn adrodd bod gwelliannau wedi eu sicrhau yn nhermau dangosyddion ansawdd.