Rhestr Astudiaethau achos

Gwneud defnydd da o wybodaeth rheoli

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

04/11/2009

Bu gwaith cychwynnol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, gan ddefnyddio Pecyn Cymorth Rheoli Carbon yr Ymddiriedolaeth Garbon, yn galonogol. Er ei fod ond yn defnyddio data lefel-uchel ar gyfer yr eiddo hynny sydd fwyaf tebygol o ddefnyddio llawer o ynni, mae eisoes wedi nodi lle y gellir gwneud arbedion ariannol sylweddol.

Mae'r Pecyn Cymorth yn cymharu adeiladau o fathau a defnydd tebyg, yn amodi data yn erbyn arwyneb y llawr, ac yn dadansoddi'r defnydd disgwyliedig yn erbyn y biliau a dderbyniwyd. Mae hyn yn darparu cymhariaeth gyflym lle gellir nodi defnydd sy'n annisgwyl o uchel yn hawdd.

Ceir enghraifft nodedig o lwyddiant yng Nghanolfan Hamdden Blaenafon, lle y gosodwyd ffactor i gywiro pwysedd mesurydd cyflenwi nwy yn anghywir. Cywirwyd y mesurydd, a dylai arwain at ostyngiad o £20,000 yn y bil nwy blynyddol ar gyfer yr eiddo hwn. Mae'r Rheolwr Ynni hefyd wedi cael ad-daliad o £28,000 o'r cyflenwr cyfleustod nwy am godi taliadau rhy uchel yn seiliedig ar ddata defnydd anghywir o'r mesurydd hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae'n ceisio adennill gordaliadau am y chwe blynedd ddiwethaf.

Enw cyswllt: Alan Jones
Swydd: Rheolwr Ynni 
Rhif ffôn: 01633 648853 
Ebost: Alan.jones@torfaen.gov.uk

Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Y Ganolfan Ddinesig
Pont-y-pwl
Torfaen
NP4 6YB
Gwefan: www.torfaen.gov.uk