Rhestr Astudiaethau achos

Llwybrau i dai a addaswyd

Cymdeithas Tai y Rhondda

01/10/2008

Mae'r prosiect wedi datblygu Cofrestr Tai yn benodol i bobl ag anableddau sy'n ceisio symud i lety amgen.

Yn sgîl arian grant gan Lywodraeth y Cynulliad, sefydlwyd partneriaeth o asiantaethau tai, gofal cymdeithasol, iechyd a gwirfoddol yn y fwrdeistref sirol. Mae'r bartneriaeth wedi nodi anghenion cleientiaid a'u dewisiadau o ran tai, wedi datblygu cronfa ddata o eiddo a addaswyd eisoes gan bob landlord cymdeithasol ac wedi datblygu proses 'baru' i ddyrannu eiddo a addaswyd. Y canlyniad i gleientiaid yw'r gwell opsiynau sydd ar gael i wella sefyllfa lle y ceir llety anaddas. Ar gyfer landlordiaid, cafwyd gwelliant mewn amseroedd gosod ac mae eiddo a addaswyd eisoes yn cael ei ddefnyddio'n fwy effeithiol. Drwy nodi anheddau sydd wedi'u haddasu'n briodol eisoes a'u cyfateb i gleient mewn angen, mae'r prosiect yn gwneud y defnydd gorau posibl o adnoddau presennol.

Mae'r prosiect hwn hefyd wedi rhoi cronfa ddata o anghenion pobl ag anableddau corfforol, sy'n helpu i lywio'r ddarpariaeth ar lefel strategol.

Enw cyswllt: Lesley Davies
Swydd: Prif Weithredwr
Ffôn: 01443 424200
Ebost: enquiries@rhondda.org
Cyfeiriad: Cymdeithas Tai y Rhondda
97 Dunraven Street
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 1AR
Gwefan: www.rhondda.org